Trosolwg o'r Cwrs
Os hoffech chi astudio Hanes ar draws miloedd o flynyddoedd, neu ddewis modiwlau sy'n cwmpasu'r ystod ehangaf bosibl o gyfnodau, Hanes yr Henfyd a Hanes yn Abertawe yw'r dewis i chi. Oherwydd y rhychwant amser hir y mae’r cynllun gradd hwn yn ei gwmpasu, gallwch hefyd ymchwilio i sut mae cyfnodau diweddarach wedi deall ac adeiladu ar yr hyn oedd wedi digwydd ynghynt. Rhowch y diwylliannau rydych chi’n eu harchwilio mewn cyd-destun dwfn a meddwl yn feirniadol am hunaniaeth a datblygiadau cymdeithasol-ddiwylliannol, yn ogystal â gweithredoedd gwneuthurwyr hanes mewn llawer o gyd-destunau gwahanol. Byddwch yn cael cyfle i ystyried cysylltiadau a datblygiadau ar draws canrifoedd a milenia a dadansoddi amrywiaeth fawr o ddeunydd hanesyddol, o wrthrychau hynafol yn y Ganolfan Eifftaidd, ein hamgueddfa fewnol, a safleoedd hanesyddol i ddeunydd archifol diweddar. Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi i ddatblygu ynoch chi’ch hun ac i feithrin sgiliau dadansoddol a rhyngbersonol pwysig.
Pam Hanes yr Henfyd a Hanes yn Abertawe?
Rydym ni ar Gampws Parc Singleton, mewn parcdir sy’n edrych dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr.
Mae’r Clasuron yn Abertawe:
- Yn yr 2il safle yn y DU am Foddhad â’r Cwrs (Guardian University Guide, 2023)
- 3ydd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2024)
- Classics - 2il yn y DU am Lais y Myfyrwyr (NSS 2023*)
- Yn y 3ydd safle yn y DU am Ansawdd Addysgu (Times Good University Guide 2023)
- Classics - 5 yn y DU am yr Addysgu ar fy Nghwrs (NSS 2023^)
- Ymysg y 51-90 rhaglen orau o’i bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2023)
*Wedi'i seilio ar sgôr bositifrwydd gyfartalog cwestiynau 1 i 4 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023 o'i chymharu â phrifysgolion a ymddangosodd yn The Times Good University Guide.
^Wedi'i seilio ar sgôr bositifrwydd gyfartalog cwestiynau 1 i 4 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023 o'i chymharu â phrifysgolion a ymddangosodd yn The Times Good University Guide.
Mae Hanes yn Abertawe:
- Ymysg yr 20 adran orau yn y DU am Foddhad â’r Cwrs (Guardian University Guide, 2023)
- 16 yn y DU am Lais y Myfyrwyr*
*Wedi'i seilio ar sgôr bositifrwydd gyfartalog cwestiynau 22 i 25 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023 o'i chymharu â 33 o brifysgolion a ymddangosodd yn The Times Good University Guide.
Ym maes Hanes yr Henfyd mae gennym arbenigedd mewn meysydd o ddinas-wladwriaethau Groeg a’u daearyddwyr, Cyprus drwy’r oesoedd, ac Alecsander Fawr i Syria Rufeinig, Pompeii, ac esgobion ac ymerodron yr ymerodraeth Rufeinig ddiweddarach, ac rydym yn cyhoeddi’n rheolaidd am y rheini. Mae ein staff Hanes yn ymfalchïo yn eu harbenigedd yn hanes Prydain, Ewrop, ac America, o'r oesoedd canol tan y cyfnod modern, ar bynciau sy'n cynnwys rhyw, rhywioldeb, ac anghydraddoldebau; treftadaeth a hanes yn y gweithle; meddygaeth, iechyd, ac anabledd; a rhyfel, trais a heddwch.
Gallwch astudio'r gorffennol y tu allan i'r ddarlithfa a'r llyfrgell, drwy deithiau maes a modiwlau teithiau astudio, gan ddefnyddio eich gwybodaeth mewn lleoliad gwaith. Os ydych chi'n ystyried addysgu fel gyrfa, gallwch gael profiad gwerthfawr gyda'n modiwl Lleoliad Ysgol lle gallwch, fel rhan o'ch gradd, addysgu diwylliant y byd clasurol i ddisgyblion mewn ysgolion lleol. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd yn y sector treftadaeth, gan weithio gyda sefydliadau lleol, sy'n gyd-naws â'n cenhadaeth ddinesig a'n pryder am ein hamgylchedd.
Bellach i ffwrdd, gallwch ddewis treulio semester dramor yn ystod eich ail flwyddyn gydag un o'n partneriaid niferus yn Awstralia, Asia, Gogledd America neu Ewrop, neu ddewis y fersiwn pedair blynedd o'r radd hon sy'n cynnwys blwyddyn gyfan dramor ar ôl eich ail flwyddyn yn Abertawe.
Eich Profiad Hanes yr Henfyd a Hanes
Mae creu hanes, nid ysgrifennu amdano yn unig, yn gymaint o gelfyddyd â sgil. Asesir ein modiwlau mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, a nod sawl un ohonynt yw gadael i chi feithrin eich creadigrwydd a'ch helpu i ddatblygu eich profiad wrth gyfleu eich gwybodaeth. Cewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun, i weithio'n annibynnol yn ogystal â gweithio gyda phobl eraill, ac i weithredu'n broffesiynol.
Drwy gydol eich gradd Hanes yr Henfyd a Hanes, bydd mentor academaidd gan bob un ohonoch o blith y staff addysgu i ddarparu cymorth academaidd. Rydym yn gymuned gynhwysol, glos sy'n mwynhau archwilio'r byd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae ein Cymdeithas yr Henfyd a gynhelir gan fyfyrwyr yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys teithiau i amgueddfeydd, fel y mae'r Gymdeithas Hanes.
Cyfleoedd Cyflogaeth Hanes yr Henfyd a Hanes
Er mwyn gwella eich rhagolygon gyrfa, rydym yn cynnig cyfle i gofrestru am wahanol leoliadau gwaith cyflogadwyedd a chyfranogiad, megis yr Wythnos Gwaith.
Fel arfer, bydd myfyrwyr Hanes yr Henfyd yn meithrin sgiliau cyflwyno ac ysgrifennu rhagorol, sy'n gysylltiedig ag ymchwil, dadansoddi, a datrys problemau. Byddwch yn dysgu i ddatblygu eich syniadau mewn amrywiaeth eang o fformatau sy'n berthnasol i'ch bywyd ar ôl y brifysgol.
Mae ein graddedigion yn mynd i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:
- Treftadaeth a Thwristiaeth
- Addysgu
- Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
- Busnes a Rheoli
- Gwleidyddiaeth a'r Gwasanaeth Sifil