Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol, BA (Anrh)

Gallwch archwilio ystod o ddigwyddiadau hanesyddol dylanwadol o bedwar ban byd

students speaking together

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein BA Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol yn archwilio ac yn astudio gwareiddiadau a allai ymddangos fel byd anghysbell ond sy'n dal i fod yn ddylanwadol iawn hyd heddiw. Byddwch yn cael y cyfle i archwilio hanes Ewrop a rhanbarthau Môr y Canoldir o'r Hen Eifftwyr, yr Atheniaid a’r Persiaid i'r Croesgadau, ac o'r Ymerodraeth Rufeinig i deyrnasoedd hynafol Lloegr a Ffrainc yn ogystal ag 'Oes Tywysogion' Cymru gan astudio amrywiaeth o agweddau hanesyddol ac archaeolegol.

Mae'r radd hon yn cynnig nifer o ffyrdd o gymharu'r bydoedd Hynafol a Chanoloesol ac i ddeall y cysylltiadau rhyngddynt. Mae'n ceisio deall sut mae gwareiddiadau hynafol wedi dylanwadu ar gymdeithasau canoloesol, gan archwilio themâu megis pŵer, hunaniaeth, credoau a rhywedd. Mae hefyd yn archwilio'r trawsnewidiad o'r hen fyd i'r byd canoloesol, gan herio natur cyfnodoli ac amlygu pwysigrwydd themâu tebyg sy'n cefnogi ein dealltwriaeth o'r gorffennol pell.

Mae Prifysgol Abertawe mewn rhanbarth sy'n gyfoethog o ran cofebau o'r gorffennol hynafol a chanoloesol, gan gynnwys cestyll, adfeilion abatai a rhai Rhufeinig, ac mae'r rhaglen radd hon yn cyfuno addysgu â chyflwyno myfyrwyr i'r dreftadaeth gyfoethog hon.

Pam Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol yn Abertawe?

Ar gampws hardd Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr, mae Prifysgol Abertawe mewn rhanbarth sy'n llawn henebion o'r gorffennol hynafol a chanoloesol. Cewch eich cyflwyno i'r dreftadaeth gyfoethog hon drwy eich astudiaethau.

Byddwch yn ymuno â chymuned fywiog a chroesawgar lle mae myfyrwyr a staff yn cefnogi ei gilydd yn academaidd ac yn gymdeithasol.  O'r diwrnod cyntaf, byddwch yn cael tiwtor personol - academydd a fydd yn eich tywys drwy eich gradd, gan gynnig cyngor academaidd a chymorth personol i chi.

Eich Profiad Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol

Yr athroniaeth sy'n sail i'r radd hon yw bod astudio'r gorffennol hynafol a chanoloesol mewn ffordd gymharol yn dysgu sut i ymgysylltu'n feddylgar â materion cymhleth, gan herio tybiaethau a gwerthfawrogi amrywiaeth profiad dynol ar draws amser a lle.

Bydd y rhaglen yn cynnig profiad dysgu cynhwysfawr a hyblyg i chi. Bydd cyfuno modiwlau craidd ac opsiynol yn galluogi myfyrwyr i ennill sylfaen gref yn hanes yr henfyd a chanoloesol wrth deilwra eu hastudiaeth i'w diddordebau penodol. Mae cynnwys prosiect traethawd hir sylweddol yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu ymgysylltu'n ddwfn mewn pwnc o'u dewis, gan feithrin sgiliau ymchwilio annibynnol.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â semester neu flwyddyn dramor, mewn lleoliadau megis Unol Daleithiau America, Canada, Tsieina, Hong Kong, neu Singapore, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae'r BA Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol yn arfogi graddedigion i symud i ystod o yrfaoedd ac astudiaethau pellach, gan gynnwys:

  • Archifau
  • Sefydliadau Hanes a Threftadaeth
  • Addysg
  • Y Gyfraith
  • Newyddiaduraeth a'r cyfryngau
  • Y sector cyhoeddus

Rolau lefel graddedigion mewn amrywiaeth o feysydd, gan ddefnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol uwch.

Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol, BA (Anrh)

Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)