Eifftoleg a Hanes yr Henfyd, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Eifftoleg a Hanes yr Henfyd yn gwrs cyffrous sy'n cynnig astudiaeth gynhwysfawr o hanesion a diwylliannau cyfoethog yr hen Aifft, Groeg a Rhufain. Drwy'r rhaglen hon, byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr mewn gwaith ymchwil, dadansoddi a meddwl yn feirniadol, wrth ddatblygu dealltwriaeth ddofn o strwythurau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd y diwylliannau a chymdeithasau hynafol hyn.

Gyda ffocws ar gelf, archeoleg, ieithoedd a llenyddiaeth y cymdeithasau hyn, bydd y rhaglen hon yn rhoi i chi sylfaen gref i astudio byd Môr y Canoldir Dwyreiniol hynafol, wrth gynnig ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n werthfawr mewn llawer o ddiwydiannau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym myd academaidd, sefydliadau diwylliannol, cyhoeddi, twristiaeth neu feysydd eraill sy'n gwerthfawrogi sgiliau meddwl yn feirniadol, ymchwil a chyfathrebu, mae'r BA Eifftoleg a Hanes yr Henfyd yn ddewis perffaith ichi. Ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon i archwilio'r byd hynafol, ei etifeddiaeth a'i effaith ar gymdeithas gyfoes.

Dyfarniadau a Safleoedd

* Clasuron
** Wedi'i asesu o dan Archaeoleg, yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.
*** Wedi’i asesu o dan Clasuron. Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mae gofynion mynediad yna i roi arweiniad i chi, nid i fod yn rhwystr, a bydd ein cynnig wedi cael ei deilwra ar eich cyfer chi a beth rydym yn meddwl y medrwch chi ei gyflawni.

Rydym yn gwybod bod pethau'n gallu newid wrth i chi fynd drwy'r siwrnai. Gallwch siarad â ni am eich cynnig ar unrhyw gyfnod a byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn gynnig y medrwch chi ei gyflawni.

Eich Profiad Eifftoleg a Hanes yr Henfyd

Mae'r cyfle i greu profiad gwerthfawr yn hanfodol i'r rhaglen hon, gyda nifer o gyfleoedd i chi fynd allan o'r ystafell ddosbarth. O deithiau maes hanes a threftadaeth, i gyfleoedd am leoliadau gwaith amrywiol sy'n gwella eich dealltwriaeth o’r ddiwydiant amgueddfeydd ac arferion treftadaeth. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i wirfoddoli yn ein Canolfan Eifftaidd, sy'n gartref i dros 5,000 o arteffactau, a gallwch fanteisio ar ein cysylltiadau agos ag ysgolion lleol drwy Hwb Clasuron Cymru, â'n modiwl lleoliad gwaith, lle gallwch gael profiad yn yr ystafell ddosbarth.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig amryw o gyfleoedd i chi ddangos eich dealltwriaeth newydd o'r byd hynafol. Efallai gofynnir i chi lunio 'cylch bywyd gwrthrych', sy'n nodi sut cafodd sbesimenau penodol eu creu a sut gwnaethant gyrraedd eu lleoliad presennol, neu lunio cynllun i arddangos arteffactau penodol. Bydd ein haseiniadau'n eich helpu chi i ddatblygu eich gallu i gyfleu eich gwybodaeth mewn amryw o ffyrdd, drwy gyflwyniadau, postiadau blog neu aseiniadau creadigol yn ogystal â thraethodau ysgrifenedig mwy traddodiadol. Caiff yr aseiniadau hyn eu strwythuro'n ofalus i'ch cefnogi chi i fagu sgiliau a hyder wrth i chi astudio.

Hefyd, byddwch yn cael eich annog i ymgysylltu â'n grwpiau ymchwil sefydledig, sy'n croesawu siaradwyr gwadd arbenigol yn rheolaidd.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Fel myfyriwr graddedig y rhaglen hon, byddwch fel arfer yn datblygu sgiliau cyflwyno ac ysgrifennu rhagorol sy'n gysylltiedig ag ymchwil, dadansoddi a datrys problemau. Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu eich syniadau mewn amrywiaeth eang o fformatau sy'n uniongyrchol berthnasol i'ch bywyd ar ôl y brifysgol.

Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau gan gynnwys:

  • Rheoli Treftadaeth a Thwristiaeth
  • Amgueddfeydd a Sefydliadau Diwylliannol
  • Addysg ac Addysgu
  • Cyhoeddi, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Busnes a Rheoli
  • Gwleidyddiaeth a'r Gwasanaeth Sifil
  • Ymchwil a Datblygu

Eifftoleg a Hanes yr Henfyd, BA (Anrh)

Eifftoleg a Hanes yr Henfyd gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Eifftoleg a Hanes yr Henfyd gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Eifftoleg a Hanes yr Henfyd gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)