Trosolwg o'r Cwrs
Dyma'ch cyfle i ymdrin â rhai o'r cwestiynau a'r heriau mwyaf dybryd ym maes gwleidyddiaeth mewn byd sy'n dod yn fwyfwy rhyngysylltiedig a rhyngddibynnol, yn ogystal â dysgu am ei gysylltiadau niferus â'r gorffennol gyda gradd BA Abertawe mewn Hanes a Gwleidyddiaeth.
Mae arbenigedd ein Hadran Hanes, Treftadaeth a'r Clasuron yn ymdrin ag amrywiaeth eang o gyfnodau, o Ymerodraethau Canoldirol Hynafol i Groesgadau canoloesol Ewrop yn y Dwyrain Canol i gynnydd a chwymp unbenaethau modern. Bydd ein darlithwyr Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn tywys eich astudiaethau gwleidyddiaeth gyfoes a'r grymoedd sy'n ei llunio a'i sbarduno yn y DU ac yn fyd-eang.
Ym mhob cam o'r cwrs, byddwch yn astudio modiwlau craidd a fydd yn rhoi i chi sylfaen gadarn o wybodaeth a sgiliau. Ochr yn ochr â'r rhain, gallwch ddewis o blith modiwlau dewisol sy'n gysylltiedig â themâu gwahanol, gan eich galluogi i lunio eich llwybr eich hun yn seiliedig ar yr hyn sydd o ddiddordeb mwyaf i chi. Mae'r cymysgedd hwn o strwythur a hyblygrwydd yn creu amgylchedd dysgu cynhwysol lle gallwch ddilyn eich angerdd a theilwra'ch uchelgeisiau.