Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r BA mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ar draws ystod eang o sectorau a gyrfaoedd, wrth archwilio dros 1,500 o flynyddoedd o hanes, o gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig hyd at y presennol.
Bydd gennych gyfle i arbenigo mewn cyfnodau penodol o hanes, megis Prydain fodern, Ewrop a'r Unol Daleithiau neu'r Oesoedd Canol. Byddwch hefyd yn gallu canolbwyntio eich astudiaethau ar themâu sy'n croesi gwahanol gyfnodau hanesyddol, gan gynnwys Rhyw a Rhywedd, Ymerodraeth a Chenedlaetholdeb, Chwyldroadau, Meddygaeth ac Anabledd, a'r Amgylchedd.
Drwy gyfrwng dulliau asesu arloesol sy'n ymestyn y tu hwnt i draethodau traddodiadol, mae'r cwricwlwm yn eich helpu i feithrin sgiliau ar gyfer y byd gwaith a chwblhau tasgau mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â'ch cryfderau. Bydd gennych hefyd gyfle i gymhwyso eich sgiliau ac ennill profiad gwaith drwy fodiwl lleoliad gwaith dewisol, ac yn eich blwyddyn olaf byddwch yn cynnal eich ymchwil wreiddiol eich hun ar bwnc o'ch dewis fel rhan o'ch traethawd hir.