Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
  5. Ffiseg Cyrsiau Israddedig
  6. Ffiseg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
  5. Ffiseg Cyrsiau Israddedig
  6. Ffiseg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Ffiseg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Tudalennau cysylltiedig
  • Ein Cyfadrannau
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Clirio
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Cyfres Gweminar Prifysgol Abertawe
Wedi'i achredu gan y Sefydliad Ffiseg. Hefyd, mae gan yr adran Ffiseg statws Ymarferydd Juno.
Sicrwydd Ansawdd y DU
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
Students in lab

8fed yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr

(Complete University Guide 2023)

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U.
  • Rhyngwladol
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Sefydliad
Côd UCAS
F301
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
CDD
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Sefydliad
Côd UCAS
F301
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
CDD - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 21,750
Wedi'i achredu gan y Sefydliad Ffiseg. Hefyd, mae gan yr adran Ffiseg statws Ymarferydd Juno.
Sicrwydd Ansawdd y DU

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ffiseg yn cyfuno rhesymu dadansoddol a datrys problemau gan ddefnyddio iaith mathemateg i ddeall y bydysawd.

Os oes gennych awydd dwfn i ddeall sut mae popeth yn gweithio, o'r byd cwantwm isatomig i ehangder y cosmos, y radd BSc mewn Ffiseg yn Abertawe yw'r cwrs i chi.

Mae ein gradd pedair blynedd mewn BSc Ffiseg gyda blwyddyn sylfaen integredig yn addas i fyfyrwyr nad oes ganddynt y cymwysterau angenrheidiol i ddechrau'r radd tair blynedd yn uniongyrchol.

Mae'n eich paratoi ar gyfer trylwyredd y BSc ac mae wedi'i datblygu i ehangu eich cymwyseddau craidd mewn Ffiseg a Mathemateg.

Pam Ffiseg gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • Mae 93% o raddedigion yn gweithio, yn astudio a/neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg HESA o Hynt Graddedigion 2022)
  • 8fed yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr (Complete University Guide 2023)
  • Ymhlith y 300 gorau yn ôl QS World University Rankings 2023

 yn radd uchel ei pharch sy'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd.

Bydd eich dysgu'n cael ei lywio gan academyddion ysbrydoledig megis yr , sy'n enwog yn rhyngwladol am ei gyfraniadau ymchwil mewn ffiseg ynni uchel damcaniaethol; yr  a'i dîm, yn y cydweithrediad rhyngwladol ALPHA yn CERN dan arweiniad Abertawe, sy'n enwog am ddatblygu technegau arloesol a arweiniodd at ddal ac astudio atomau gwrthhydrogen.

Mae gan Brifysgol Abertawe Wobr Aur TEF, sef cydnabyddiaeth o ragoriaeth mewn addysgu addysg uwch gan Lywodraeth y DU.

Eich Profiad Ffiseg gyda Blwyddyn Sylfaen

  • Byddwch yn astudio seryddiaeth, ffiseg niwclear, ffiseg lled-ddargludyddion, mecaneg gwantwm, ac yn dewis o amrywiaeth o fodiwlau ar astroffiseg, disgyrchiant a chosmoleg, prosesu gwybodaeth gwantwm a ffiseg hinsawdd.
  • Mae ein grwpiau ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn Ffiseg Gronynnau a Damcaniaeth Cosmoleg, Deunyddiau Cymhwysol, a'r cydweithrediad gwrth-fater ALPHA sydd â chysylltiadau agos â CERN, yn sicrhau bod ein haddysgu ar ein
    gradd yn cael ei lywio gan yr ymchwil ddiweddaraf. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i wneud interniaeth dros yr haf neu gynnal prosiect blwyddyn olaf (fel arfer ar lefel Meistr) gyda grŵp ALPHA yn CERN yn Genefa.
  • Byddwch yn meistroli ystod eang o ddulliau datrys problemau dadansoddol a mathemategol yn y labordy ac felly'n meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich rhoi mewn sefyllfa hynod ddymunol yn y farchnad gyflogaeth.
  • Mae cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig ar gyfer pob blwyddyn ac ar gyfer Cymdeithas Ffiseg Prifysgol Abertawe (PhySoc)
    yn sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed drwy gyfarfodydd rheolaidd â Phenaethiaid Adrannau.
  • Mae'r adran Ffiseg a Chymdeithas Ffiseg Prifysgol Abertawe'n noddi digwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau academaidd rheolaidd megis cynulliadau adrannol a darlithoedd nodedig i ddod â myfyrwyr a staff at ei gilydd.
  • Mae ein mannau cyffredin i myfyrwyr a staff (the Event Horizon) sy'n meddu ar olygfeydd trawiadol o
    Fae Abertawe, yn lle delfrydol i astudio'n dawel, cynnal trafodaethau anffurfiol a chael cinio.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffiseg gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae ein graddedigion wedi dod yn wyddonwyr data, yn beirianwyr deallusrwydd artiffisial, yn ddaroganwyr galw, yn ddadansoddwyr cyllid meintiol, yn ddadansoddwyr llofnodion electromagnetig, yn ddrafftwyr cost, yn archwilwyr patent ac yn beirianwyr meddalwedd mewn sectorau sy'n cynnwys ymchwil y llywodraeth, y sector preifat, awyrofod, amddiffyn, ynni, peirianneg ac archwilio’r gofod.

Mae canran sylweddol o'n graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn astudiaethau ac ymchwil ôl-raddedig gydag amrywiaeth eang o arbenigeddau.

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynigion wedi'u gwarantu*

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur

5 rheswm dros astudio Ffiseg yn Abertawe

Ewch ar daith o amgylch ein cyfleusterau gyda Saba

Students in a lab
Saba

Proffiliau myfyrwyr

Valeria Italia

Modiwlau

Byddwch yn dilyn llwybr gradd sy'n cynnwys y modiwlau 10 credyd gorfodol a dewisol canlynol, ac eithrio modiwl prosiect 20 credyd yn eich blwyddyn olaf.

Blwyddyn 0 (Lefel 3)

Entry Level 3 / Foundation Year
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
20PH-022
MechanicsSeptember-January20PH-021
Foundation Mathematics for Physicists ISeptember-January20PH-023
Waves, Optics and Thermal PhysicsJanuary-June20PH-024
Atoms, Nuclei and ParticlesJanuary-June20PH-025
Foundation Mathematics for Physicists IIJanuary-June20PH-026

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

FHEQ 4 Undergraduate / HECert

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Dynamics, Oscillations and WavesSeptember-January20PH-100
Astronomy and CosmologySeptember-January10PH-104
Essential Skills for PhysicistsSeptember-June10PH-113
Mathematics for Physicists ISeptember-January20PH-132
Physics of Fields and MatterJanuary-June20PH-112
Quantum World IJanuary-June10PH-127
Mathematics for Physicists IIJanuary-June20PH-133
Modiwlau Opsiynol
Physics English or Welsh 

Dewiswch Yn union 10 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Select at least one module

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Laboratory Physics ISeptember-June10PH-129This is the English Language version of PH-129 and should be selected if you do not wish to study a minimum of 5 credits of the module through the medium of Welsh.
Ffiseg Labordy ISeptember-June10PH-129CMae hon fersiwn cyfrwng Cymraeg o fodiwl PH-129, a ddylai gael ei ddewis os ydych yn dymuno astudio lleiafswm o 5 credyd o’r modiwl hon drwy gyfrwng y Gymraeg.

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

FHEQ 5 Undergraduate / HEDip

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Statistical PhysicsSeptember-January10PH-203
Physics SimulationSeptember-January10PH-204
Quantum World IISeptember-January10PH-205
Mathematical Methods in Physics ISeptember-January10PH-206
Electromagnetism and Special Relativity ISeptember-January10PH-221
Condensed Matter Physics IJanuary-June10PH-207
Electromagnetism IIJanuary-June10PH-222
Mathematical Methods in Physics IIJanuary-June10PH-227
Particle Physics IJanuary-June10PH-229
Modiwlau Opsiynol
Physics English or Welsh 

Dewiswch Yn union 10 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Laboratory Physics 2 and Group ProjectsJanuary-June10PH-211This is the English Language version of PH-211 and should be selected if you do not wish to study a minimum of 5 credits of the module through the medium of Welsh.
Ffiseg Labordy 2 a Phrosiectau GrwpJanuary-June10PH-211CMae hon fersiwn cyfrwng Cymraeg o fodiwl PH-211, a ddylai gael ei ddewis os ydych yn dymuno astudio lleiafswm o 5 credyd o’r modiwl hon drwy gyfrwng y Gymraeg.
AND
Physics English or Welsh 

Dewiswch Yn union 10 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Laboratory Physics 2 and Group ProjectsSeptember-January10PH-210This is the English Language version of PH-210, and should be selected if you do not wish to study a minimum of 5 credits of the module through the medium of Welsh.
Ffiseg Labordy 2 a Phrosiectau GrwpSeptember-January10PH-210CMae hon fersiwn cyfrwng Cymraeg o fodiwl PH-210, a ddylai gael ei ddewis os ydych yn dymuno astudio lleiafswm o 5 credyd o’r modiwl hon drwy gyfrwng y Gymraeg.
AND
 

Dewiswch Yn union 10 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Professional Development and Career PlanningSeptember-January0PH-216
Foundations of AstrophysicsJanuary-June10PH-320
Probing the nano-scaleJanuary-June10PH-361

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

FHEQ 6 Undergraduate / Honours

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Quantum World IIISeptember-January10PH-302
Atomic Physics ISeptember-January10PH-306
Condensed Matter Physics IISeptember-January10PH-307
Advanced Research in PhysicsSeptember-January10PH-312
Particle Physics IISeptember-January10PH-335
Frontiers of Nuclear PhysicsSeptember-January10PH-338
Semiconductor Device PhysicsJanuary-June10PH-300
Atomic Physics and Quantum Optics IIJanuary-June10PH-333
Modiwlau Opsiynol
Physics English or Welsh 

Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
ProjectJanuary-June20PH-311This is the English Language version of PH-311 and should be selected if you do not wish to study a minimum of 5 credits of the module through the medium of Welsh.
ProsiectJanuary-June20PH-311CMae hon fersiwn cyfrwng Cymraeg o fodiwl PH-311, a ddylai gael ei ddewis os ydych yn dymuno astudio lleiafswm o 5 credyd o’r modiwl hon drwy gyfrwng y Gymraeg.
AND
 

Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
GravityJanuary-June10PH-321This module is a pre-requisite for PH-322 and MUST be selected if you wish to study Cosmology in Teaching Block 2 (please note you may select PH-321 without PH-322 in the next section).
CosmologyJanuary-June10PH-322PH-321 is a pre-requisite for this module and MUST be selected in Teaching Block 1 if you wish to study this module in Teaching Block 2.
OR
 

Dewiswch Yn union 10 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
GravityJanuary-June10PH-321
Quantum Information ProcessingJanuary-June10PH-329Available to students with a level 2 average greater than 70%. Class size is limited to 10 students as it works alongside the level M module (PH-M32).
AND
 

Dewiswch Yn union 10 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Foundations of AstrophysicsJanuary-June10PH-320Not available if already studied at Level 2.
Teaching Physics via a School PlacementJanuary-June10PH-325Positions may be reduced and the module may not run if school partners withdraw due to pandemic conditions. There will be a selection process. Please have a reserve module in mind.
Addysgu ffiseg trwy leoliad mewn ysgolJanuary-June10PH-325CGellir lleihau swyddi ac efallai na fydd y modiwl yn rhedeg os bydd partneriaid ysgol yn tynnu'n ôl oherwydd cyflyrau pandemig. Bydd proses ddethol. Os gwelwch yn dda cofiwch fodiwl wrth gefn.
Probing the nano-scaleJanuary-June10PH-361

Gofynion Mynediad

Safon Uwch: CDD mewn Ffiseg a Mathemateg ond caiff ymgeiswyr â chymwysterau neu brofiad proffesiynol perthnasol eu hystyried hefyd.

Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddoniaeth): 27 teilyngdod gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 24 (gan gynnwys 6 mewn Mathemateg a 7 mewn Ffiseg ar Lefel Safonol).

BTEC: caiff ymgeiswyr eu hystyried gan ddibynnu ar y pynciau a astudiwyd, a disgwylir iddynt ddangos gwybodaeth sylweddol am Ffiseg a Mathemateg ymhell uwchlaw safon TGAU.

*Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd heb y cymwysterau angenrheidiol i ddechrau ar y cynllun gradd BSc tair blynedd. Y Tiwtoriaid Derbyn fydd yn penderfynu, a hynny ar sail pob cais unigol.

Caiff pob cais ei ystyried yn unigol a byddwn yn edrych ar y cais cyfan wrth benderfynu cynnig lle ai peidio, gan gynnwys: cydbwysedd, natur ac ansawdd y pynciau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a TGAU (neu gyfwerth); y datganiad personol a sylwadau'r canolwr.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.

Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.

Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.

Darpariaeth Gymraeg

Rhywfaint o ddarpariaeth

Darperir rhai elfennau o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn.

Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Mynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
  • Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Lawrlwythwch yr ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
  • Cyfle am gyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Cyfle i dderbyn gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
  • Cyfle i ysgrifennu a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os ydych chi wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd eich gwaith yn cael ei farcio yn Gymraeg.
  • Mentor Academaidd Cymraeg ei iaith.
  • Cefnogaeth un i un i wella eich sgiliau Cymraeg academaidd.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Gymraeg i gyflogwyr.
  • Cyfle i fod yn aelod o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  • Cyfle i gyfrannu at weithgaredd a bywiogrwydd cymuned Gymraeg y Brifysgol ac ennill Gwobr Academi Hywel Teifi

I ddysgu mwy am yr uchod ac am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i dudalennau israddedig Academi Hywel Teifi

Achrediad Corff Proffesiynol

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Sefydliad Ffiseg. Hefyd, mae gan yr adran Ffiseg statws Ymarferydd Juno.

 

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Byddwch chi'n cael eich addysgu gan ddarlithwyr sy'n ymgymryd yn rhagweithiol ag ymchwil o safon fyd-eang. Mae eu gweithgareddau ymchwil mewn meysydd pur a chymhwysol megis damcaniaeth gronynnau, cyfrifiadura uwch, deunyddiau cymhwysol, a diagnosio anfewnwthiol o ganser y coluddyn, 

 a  - Cyd-benaethiaid yr Adran 

Yr Athro David Dunbar – Cyfarwyddwr y Rhaglen

 - Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen 

Dr James Bateman – Tiwtor Derbyniadau

 

 

 

 

 

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2022 £ 9,000 £ 20,700
Medi 2023 £ 9,000 £ 21,750

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr UE/Rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Nid yw’r ffioedd dysgu’n talu am gostau prynu llyfrau neu nwyddau ysgrifennu, argraffu, rhwymo traethawd ymchwil na llungopïo.

Nid oes costau ychwanegol gorfodol wedi’u nodi ar gyfer y cwrs hwn.Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Sefydliad Ffiseg. Hefyd, mae gan yr adran Ffiseg statws Ymarferydd Juno.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Byddwch yn graddio ag ystod o sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau dadansoddi, technegau labordy, sgiliau ysgrifennu adroddiadau a lefel uchel o sgiliau technoleg ddigidol. Byddwch hefyd yn hynod rifog, sy'n werthfawr iawn i lawer o gyflogwyr.

Caiff graddedigion Ffiseg eu rhoi ar ben y ffordd i gael cyfleoedd cyflogaeth sy'n llawn boddhad. Bydd gyrfaoedd yn unrhyw rai o'r meysydd canlynol ar agor i chi.

  • Gwyddoniaeth Niwclear
  • Meteoroleg
  • Gwyddor Ymchwil
  • Awyrofod ac Amddiffyn
  • Ffiseg Meddygol
  • Modelu Ariannol
  • Peirianneg Systemau
  • TG a Pheirianneg Meddalwedd
  • Addysg ac Addysgu Gwyddoniaeth

 

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ein darlithwyr yn dilyn polisi ‘drws agored’ felly gallwch sgwrsio â nhw am unrhyw bryderon sydd gennych. Nid oes rhaid i'r rhain ymwneud â'r cwrs yn unig; mae ein staff academaidd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw beth yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gan bob cwrs gynrychiolydd myfyrwyr. Mae'r cynrychiolwyr yno i sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed. Eu rôl yw gwrando ar eich barn ac adrodd yn ôl, mynychu cyfarfodydd rheolaidd a gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n gallu gwneud newidiadau yn gwrando ar y bobl sydd wir yn bwysig – chi!

Rydym yn cynnig mentora academaidd a mentora cyfoedion. Caiff Mentor Academaidd ei neilltuo i bob myfyriwr ar ein cyrsiau gradd, ac nid yn unig y bydd y Mentor yn cynnig arweiniad academaidd i chi, ond bydd hefyd yn rhoi cyngor ar gael gafael ar gymorth gyda phroblemau personol. Mae ein Cynllun Mentora Cyfoedion ar waith er mwyn helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu yma ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn cael cyfle i siarad â'ch mentor a fydd yn gallu dweud wrthych am ei brofiadau fel myfyriwr, a gallwch hefyd sgwrsio am fywyd fel myfyriwr. Mae'r cynllun mentora cyfoedion yn ffordd wych o gwrdd â myfyrwyr ac ehangu eich cylch o ffrindiau tra byddwch yn Abertawe.

Gallwch hefyd gael cymorth gyda phroblemau personol gan ein hystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr, fel CampusLife, Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr a'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob coleg. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

Cyrsiau cyn-sesiynol

i'r rhai sy'n dymuno astudio yn y Coleg Gwyddoniaeth - English Language Training Services

 

Ffiseg gyda Blwyddyn Sylfaen

  • Ein Cyfadrannau
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Clirio
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Cyfres Gweminar Prifysgol Abertawe
Ymgeisio Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342