Trosolwg o'r Cwrs
Os oes gennych ddiddordeb yn y wyddoniaeth sy’n sail i gyffuriau a meddyginiaethau, ond nid oes gennych y cymwysterau mynediad y mae eu hangen er mwyn ymuno â’n rhaglen BSc, neu os ydych chi’n fyfyriwr aeddfed sy’n dychwelyd i addysg, ein BSc gyda Blwyddyn Sylfaen yw’r cwrs cywir i chi.
Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i’r cysyniadau a’r wybodaeth allweddol y mae arnoch eu hangen er mwyn mynd ymlaen i’r BSc mewn Ffarmacoleg Feddygol. Ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus gyda chyfartaledd cyffredinol o 60%, bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.
Byddwch yn dilyn ystod amrywiol o bynciau, gan gynnwys tocsicoleg, cemeg, geneteg, bioleg atgynhyrchiol, ffisioleg, imiwnoleg, ffarmocogenomeg, niwrowyddoniaeth, a datblygu cyffuriau.
Wrth fynd ymlaen i’r rhaglen BSc llawn, byddwch yn meithrin sylfaen fanwl yn yr wyddoniaeth sy’n sail i ddatblygu cyffuriau a meddyginiaethau, gan ddysgu am yr wyddoniaeth sy’n sail i gyffuriau a meddyginiaethau, eu heffeithiau ar systemau byw, a’u rôl wrth drin clefydau ar ein cwrs gradd Ffarmacoleg Feddygol.