Institute of Life Science 1 internal Atrium view up.jpg
Dr Jessica Fletcher

Dr Jessica Fletcher

Uwch-ddarlithydd, Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

039
Llawr Gwaelod
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton

Trosolwg

Enillodd Jessica ei gradd BSc mewn Gwyddor Fiofeddygol ym Mhrifysgol Bangor yn 2010, ac yna cwblhaodd ei gradd PhD ym maes Ymchwil Canser yn 2017. Roedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar fecanweithiau moleciwlaidd cylch celloedd ewcaryotig gan ddefnyddio'r organeb fodel S.pombe i ymchwilio i rolau amrywiolion newydd yr effeithydd cinas cam S Cds1Chk2.

Wrth gwblhau ei PhD, bu Jessica hefyd yn darlithio ar raglenni BSc Gwyddor Fiofeddygol a Gwyddor Feddygol ym Mhrifysgol Bangor, gan ennill statws Cymrawd gyda'r Academi Addysg Uwch yn 2014. Yn 2016, symudodd Jessica i Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac ar hyn o bryd, mae hi'n Uwch-ddarlithydd yn y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol. Yn ei harferion dysgu ac addysgu, mae ganddi ddiddordeb penodol yn rôl y cyfryngau digidol mewn addysg a chyfathrebu gwyddoniaeth.

Jessica yw Dirprwy Gyfarwyddwr Oriel Science Prifysgol Abertawe.

Meysydd Arbenigedd

  • Ffisioleg Ddynol
  • Cyfathrebu Gwyddoniaeth
  • Canser

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Gwobr yr Ysgol Feddygaeth am Gyfraniad Eithriadol i Waith Allgymorth ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd 2018

Gwobr Academi Cyflogadwyedd Abertawe am Gyfraniad Eithriadol i Gyflogadwyedd 2018

Gwobr yr Ysgol Feddygaeth am Gyfraniad Eithriadol i Ddysgu ac Addysgu 2020