Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôl-raddedig ac mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi i wneud hynny trwy gydol eich hamser gyda ni. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi astudio drwy’r iaith ar lefel israddedig yn gam naturiol ac o fantais sylweddol ac fe gewch chi gefnogaeth ac anogaeth lawn i wneud hynny er mwyn ychwanegu at eich cyflogadwyedd, i feithrin sgiliau dadansoddi ac i ddangos y gallu i weithio mewn mwy nag un iaith.

Dyma sylwadau gan fyfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi manteisio ar y ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.