Caiff pob swydd newydd neu wag (can gynnwys penodiadau cyhoeddus) eu hasesu i benderfynu a oes angen sgiliau Cymraeg, ac os felly, cânt eu categoreiddio fel swydd lle mae un o'r rhain yn berthnasol:
- Sgiliau Cymraeg yn hanfodol;
- Rhaid dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd
- Sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol;
- Nid yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.
Pan fo sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu pan fo angen dysgu Cymraeg ar gyfer swydd newydd neu wag, bydd y Brifysgol yn cynnwys y wybodaeth hon yn hysbyseb y swydd. Hysbysebir swyddi yn ddwyieithog ar y wefan.
Gall pobl wneud cais am unrhyw swydd yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a wneir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na rhai a wneir yn Saesneg. Bydd y Brifysgol yn datgan yn hysbysebion ei swyddi y gellir cyflwyno cais yn y Gymraeg ac na chaiff y rhain eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg.
Mae'r dogfennau canlynol ar gael i ymgeiswyr swyddi yn y Gymraeg, os maent ar gael yn y Saesneg:
- ffurflenni cais
- deunydd sy'n egluro gweithdrefnau gwneud cais am swydd
- gwybodaeth am y broses gyfweld neu am unrhyw ddulliau asesu eraill ar gyfer swyddi;
- disgrifiadau swyddi
Bydd y dogfennau hyn (a nodir uchod) yn gyfwerth â'r dogfennau a ddarperir yn y Saesneg (e.e. yn yr un fformat, wedi'u cyhoeddi ar un pryd; ar gael i'r un graddau ac ati). Gall ymgeiswyr swyddi ddewis cael cyfweliad yn y Gymraeg mewn unrhyw gyfweliad neu wrth gael asesiad o fath arall ar gyfer swydd, a bydd gofod yn y ffurflen gais i'r ymgeisydd nodi hynny.
Rhoddir gwybod i ymgeiswyr os oes angen i'r Brifysgol ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu wrth asesu neu mewn cyfweliad, fel y gellir gwireddu'r hawliau hynny. Rhoddir gwybod i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swydd yn y Gymraeg am ganlyniad y cyfweliad neu asesiad yn yr iaith honno.