Dathliad cenedlaethol yw Diwrnod Shwmae Su'mae, ar 15 Hydref. Mae'r nod yn un syml: dechrau pob sgwrs drwy ddweud Shwmae. Caiff ei ddathlu ar hyd a lled Cymru ac mae'n gyfle i bobl ddod ynghyd i ddathlu a hyrwyddo'r Gymraeg.  

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn brifysgol ddwyieithog. Golyga hyn fod croeso i chi ddefnyddio'ch Cymraeg wrth ddod i gysylltiad â'r Brifysgol. Manylir ar y hawliau hyn yn Safonau'r Gymraeg.

Academi Hywel Teifi yw pwerdy'r Gymraeg yn y Brifysgol, ac yn gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio elefennau o'u cyrsiau yn y Gymraeg. Dyma hefyd gartref canolfan Dysgu Cymraeg Bae Abertawe, ac adran y Gymraeg.

Ein myfyrwyr yn dweud Shwmae

Englyn Shwmae