Mae'r Brifysgol yn mynd ati mewn sawl ffordd i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo hawliau myfyrwyr a’r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, gwneud y mwyaf o sgiliau Cymraeg staff a sefydlu prosesau mewnol i fonitro cydymffurfiaeth.
Mae'r deunydd isod yn egluro sut mae'r Brifysgol yn bwriadu cydymffurfio, a'i chynnydd yn erbyn yr amcanion.
Sut mae'r Brifysgol yn mynd ati i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg?
Yn unol â Safonau'r Gymraeg, disgwylir i'r Brifysgol gymryd camau penodol i amlinellu sut y bydd yn hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg yn y Brifysgol a sut y bydd yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Gwneir hyd drwy weithdrefnau cyfathrebu mewnol a thrwy gyhoeddi:
- Cynllun Gweithredu Safonau'r Gymraeg sy'n nodi sut mae'r Brifysgol yn hyrwyddo'r Gymraeg ac yn monitro cydymffurfiaeth
- Adroddiadau blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg:
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021-22
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2020-21
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2019-20
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2018/19
Adroddiad Monitro Safonau'r Gymraeg Ebrill-Gorffennaf 2018
Adroddiad Monitro Cynllun Iaith Gymraeg 2016-17
Adroddiad Monitro Cynllun Iaith Gymraeg 2015-16
- Cyfleoedd Dysgu - asesu'r angen am gyfleoedd dysgu yn y Gymraeg
- Polisi ar ddyfarnu grantiau/darparu cymorth ariannol. Rhaid ystyried y materion a ganlyn pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol— (a) pa effeithiau, os o gwbl (a pha un a yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol), y byddai dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol yn eu cael ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (b) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau) fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (c) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau) fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (ch) a oes angen ichi ofyn i’r ymgeisydd am grant am unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn eich cynorthwyo i asesu effaith dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol ar— 01/04/2018 (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.