Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol er mwyn cyflwyno dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau ymddygiad o safbwynt y Gymraeg. Ar 1 Ebrill 2018 cafodd Cynllun Iaith Gymraeg gynt y Brifysgol ei ddisodli gan Safonau'r Gymraeg.

Mae hawliau gan fyfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddod i gysylltiad â'r Brifysgol.

Mae'r dyletswyddau a amlinellir yn y Safonau yn golygu na ddylai sefydliadau drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac yn pennu gofynion ar gyfer hybu a hwyluso'r defnyddio'r Gymraeg (gan ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd).

Mae dyletswydd statudol ar Gomisiynydd y Gymraeg i fonitro cydymffurfiaeth sefydliadau â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg, ac ymchwilio i gwynion a thor-gydymffurfiaeth.  Mae gan y Comisiynydd y pŵer i osod camau gorfodi, dyfarniadau llys sirol a dirwyon.

Diffiniadau

Cwmpas y Safonau

Mae Safonau'r Gymraeg yn rhoi sylw i ystod eang o weithgareddau, ond nid ydynt yn berthnasol ar bob achlysur.

Mae'r safonau cyflenwi gwasanaethau (sef y Safonau ar gyfer y rhan fwyaf o ryngweithio'r Brifysgol o ddydd i ddydd: safonau 1-93) ond yn berthnasol i'r fath raddau bod y gweithgaredd neu'r gwasanaeth a ddarperir yn ymwneud â: 

Derbyn a dethol myfyrwyr

Gwybodaeth a ddarperir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am y corff;

 Lles myfyrwyr

Cwynion

Achosion disgyblu mewn cysylltiad â myfyriwr

Gwasanaeth gyrfaoedd

Mewnrwyd i fyfyrwyr, gwefannau rhith-ddysgu a gwefannau porth dysgu

Seremonïau graddio a gwobrwyo

Asesu neu arholi myfyrwyr

Dyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol

 

Darlithoedd cyhoeddus

 

Cyfleoedd dysgu (1)

 

Dyrannu tiwtor personol (2)

Llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau'r celfyddydau

Galwadau i brif rif (neu rifau) ffôn, rhifau llinell gymorth, rhifau canolfan alwadau a systemau ffôn wedi eu hawtomateiddio

Arwyddion ar adeiladau'r corff

(1) Ystyr "cyfleoedd dysgu" yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy, sesiwn flas neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o'r cyhoedd; ond nid yw'n cynnwys a) unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy, sesiwn flas neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu fel rhan o gwrs; neu b) seminarau na chyflwyniadau llafar sy'n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad.

(2) "tiwtor personol" yw aelod o staff a ddyrenir i fyfyriwr a'i brif rôl fel tiwtor personol yw rhoi cymorth i'r myfyriwr hwnnw o ran ei ddysgu neu o ran unrhyw faterion eraill; nid yw dyrannu tiwtor personol i'r myfyriwr yn cynnwys darparu tiwtor academaidd.