Mae’r canllaw hwn ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn astudio ym Mhrifysgol Abertawe sydd ag anabledd neu anhawster tymor hir.
At ddibenion y canllaw hwn, mae'r term anabledd yn cynnwys unigolion â namau synhwyraidd neu gorfforol, cyflyrau meddygol tymor hir, anawsterau dysgu penodol, cyflyrau'r sbectrwm awtistig a chyflyrau iechyd meddwl.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym am i'n holl fyfyrwyr lwyddo hyd eithaf eu gallu, ac rydym yn cynnig llawer o gymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd eu hangen.
Sut rydym yn diffinio anabledd
Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae anabledd yn gyflwr sy'n cael “effaith negyddol sylweddol a thymor hir ar weithgareddau beunyddiol arferol.” Rhai enghreifftiau yw dyslecsia, ADHD, gor-bryder, iselder ysbryd, awtistiaeth, bwlimia, colli golwg, colli clyw, neu anawsterau symud.