Cymorth unigol i chi

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn awyddus i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn derbyn y gefnogaeth a'r cymorth priodol mae ganddynt hawl iddynt er mwyn cael profiad cadarnhaol o'r  brifysgol.

“Mae’r tîm yn Abertawe wedi bod yn wych. Mae fy narlithwyr yn e-bostio cyflwyniadau PowerPoint at y tîm trawsgrifio ac maen nhw yn eu rhoi mewn dogfennau Word gall fy narllenwr sgrîn eu darllen i mi.” Jasmine Metcalfe (myfyriwr israddedig sy'n astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg)

Cefnogaeth i ddysgu

  • Mae ein staff addysgu’n brofiadol ac wedi derbyn hyfforddiant mewn cefnogi myfyrwyr ag anghenion penodol
  • Mae Cydlynwyr Anabledd a Thimau Gwybodaeth Myfyrwyr ym mhob Cyfadran i drafod unrhyw bryderon sydd gennych
  • Mae ein Canolfan Drawsgrifio yn darparu deunyddiau cwrs a llyfrgell yn y fformat mwyaf cyfleus i chi. Mae hyn yn cynnwys testun electronig, print bras, braille, ffeiliau pdf hygyrch, diagramau cyffyrddadwy, llyfrau sain DAISY, yn ogystal â thrawsgrifiadau print o recordiadau sain
  • Efallai y bydd eich anghenion ychwanegol yn golygu y cewch recordio darlithoedd fel y gallwch astudio yn eich amser eich hun
  • Gall ysgrifenwyr nodiadau, gweithwyr cymorth a sesiynau sgiliau astudio un i un fod ar gael

Trefniadau ar gyfer Asesiadau a Marcio

Gellir ystyried addasiadau i asesiadau wedi’u hamseru. Dyma rai enghreifftiau o addasiadau:

  • Lleoliad hygyrch
  • Defnyddio ystafell fach
  • Amser ychwanegol i orffen asesiadau
  • Darllenydd, trawsgrifydd neu dechnoleg gynorthwyol
  • Mynediad at gyfrifiadur personol
  • Cwestiynau arholiad yn y fformat mwyaf addas i chi
  • Adborth a marciau yn y fformat cywir i chi
  • Ystyriaeth am sillafu, gramadeg ac atalnodi

Cyfarpar

Mae Prifysgol Abertawe wedi buddsoddi mewn technoleg gynorthwyol sy'n gallu helpu myfyrwyr i fod yn fwy cynhyrchiol yn eu hastudiaethau. Yn hanesyddol, mae technoleg gynorthwyol wedi canolbwyntio ar helpu myfyrwyr ag anableddau, ond mae'r cynhyrchion hyn yn cynnwys nifer o nodweddion a fydd o gymorth i'r holl fyfyrwyr, megis:

  • Labordai cyfrifiaduron sy’n cynnwys cyfrifiaduron â sgrin gyffwrdd
  • Ystafelloedd adnoddau ar Gampws Singleton a Champws Bae â meddalwedd ‘Jaws’ a ‘Supernova’ ar gyfer myfyrwyr â nam ar eu golwg

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau gwe Technoleg Gynorthwyol.

Y Llyfrgell

Mae’r llyfrgell yn cynnig llawer o gymorth i fyfyrwyr ag anableddau, gan gynnwys gwasanaeth archebu llyfrau a gwasanaeth llungopïo. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe'r llyfrgell.