Llety addas i chi

Gallwn gynnig:

  • Ystafelloedd gwely, ceginau ac ystafelloedd ymolchi wedi eu haddasu
  • Ystafelloedd i ofalwyr
  • Wardeniaid Lles (myfyrwyr profiadol sy’n byw yn llety’r Brifysgol, yno i’ch helpu chi)
  • Cynorthwywyr Bywyd Preswyl (staff profiadol sydd yno i helpu gyda materion llety sy'n cynnwys cyd-breswylwyr, cynnig clust i wrando heb feirniadu etc)
  • Llety tawel a di-alcohol
  • Ffôn yn yr ystafell
  • Gwasanaeth teleofal (cyswllt ffôn 24 awr rhwng eich ystafell chi a chanolfan fonitro)
  • Larymau tân sy’n fflachio
  • Ysgogwyr personol, synwyryddion cwympo ac epilepsi i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd yn gyflym
  • Cyfleusterau ar gyfer cŵn cymorth
  • Llety i deuluoedd yn Nhŷ Beck
  • Llety i fenywod yn unig
  • Llety i siaradwyr Cymraeg yn unig
  • Llety sy'n cynnwys lleoedd parcio am ddim a thocyn bws am ddim ym Mhentref y Myfyrwyr
  • Llety ar gampws drwy gydol eich amser yn y brifysgol, yn hytrach na'r flwyddyn gyntaf yn unig 

Cofiwch gyflwyno gais am lety wedi ei addasu mor gynnar â phosib er mwyn iddo fod yn barod erbyn i chi gyrraedd

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau gwe llety.