Mae gofal personol yn gymorth y bydd ei angen arnat i wneud gweithgareddau a thasgau beunyddiol o ganlyniad i dy anabledd. Gall gweithgareddau beunyddiol gynnwys:

  • Coginio
  • Glanhau
  • Ymolchi a hylendid personol
  • Cymdeithasu
  • Siopa

Nid yw'r Brifysgol yn darparu cymorth gofal personol ac felly mae angen i fyfyrwyr wneud trefniadau preifat ar gyfer y lefel hon o gymorth.

Ble bynnag rwyt ti'n dewis astudio ac os wyt ti'n fyfyriwr o'r Deyrnas Unedig, dylai dy adran Gwasanaethau Cymdeithasol gartref ddarparu cymorth gofal personol. Dyma'r awdurdod lleol lle rwyt ti'n 'preswylio fel arfer' neu ble rwyt ti'n teimlo bod gennyt ti'r cysylltiadau cryfaf. Gelli di chwilio am dy adran Gwasanaethau Cymdeithasol ar wefan y Llywodraeth. Gall gymryd amser hir i drefnu cymorth gofal personol (hyd at flwyddyn weithiau), felly rydym ni'n argymell dy fod yn cysylltu â dy Adran Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosib.

Yn anffodus, nid oes unrhyw gyllid ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu myfyrwyr o'r tu allan i'r DU gyda chymorth gofal personol. Gall cymorth gofal personol fod yn ddrud yn y DU, felly fe'th cynghorir i sicrhau bod gennyt ddigon o gyllid i dalu amdano cyn cyrraedd Prifysgol Abertawe.

Os wyt ti'n fyfyriwr y mae arno angen cymorth gofal personol, cysyllta â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd cyn gynted â phosibl er mwyn trafod dy anghenion, sut i dalu am y math hwn o gymorth, a pha opsiynau sydd ar gael i ti. Cofia fod trefnu'r math hwn o gymorth yn gallu bod yn broses hir a gallai gymryd hyd at flwyddyn o waith cynllunio er mwyn sicrhau bod anghenion cymorth yn cael eu diwallu.