Sut rydym ni’n cefnogi myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?

Ein nod yw parhau i ddatblygu Abertawe i fod yn brifysgol gynhwysol a hygyrch. Mae gan bob myfyriwr yr hawl i deimlo ei fod yn cael ei gefnogi yn ystod ei amser yn y brifysgol ac rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i ddiwallu anghenion pawb. Mae gennym adnoddau ar-lein, gwasanaethau a gweithdai, sesiynau cefnogi a chymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anawsterau hirdymor.

Gweler ein Canllaw i Gymorth a Chefnogaeth Ychwanegol i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cefnogi myfyrwyr ag anableddau a'r broses ichi ddweud wrthym am eich anghenion. Os ydych yn ansicr a wnaethoch ddatgan anabledd wrth gyflwyno cais i'r Brifysgol, mae croeso ichi gysylltu er mwyn cael rhagor o gyngor.

Os hoffech ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr presennol, gan gynnwys cymorth emosiynol a chymorth o ran iechyd meddwl ac awtistiaeth, mae croeso i chi bori tudalennau MyUni.

Mae llwyddiant ysgubol Jessica yn dangos nad yw awtistiaeth yn rhwystr iddi