Mae’r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yn wasanaeth hunangyfeirio i fyfyrwyr. O ganlyniad, nid ydym yn gallu cysylltu â myfyrwyr yn uniongyrchol oni bai eu bod wedi gofyn am wasanaeth gennym.

Mewn Argyfwng

Os wyt ti'n meddwl bod dy ffrind yn risg i'w hunan, neu os wyt ti'n gofidio am ei ymddygiad neu ei weithredoedd ac nid yw'n fodlon mynd at feddyg teulu, dylet ti ffonio'r gwasanaethau brys ar 999 a fydd yn gallu darparu asesiad priodol a gofal meddygol ar ei gyfer.

Am ragor o fanylion os wyt ti’n meddwl bod dy ffrind mewn argyfwng brys, cer i'n tudalen Cael Cymorth yn ystod Argyfwng am gyngor ac arweiniad.

Cymorth Lles ac Anabledd

Dyma'r ddolen i'r Ffurflen Cymorth Myfyrwyr y gallai eich ffrind ei chwblhau os yw am ddefnyddio'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd (neu os ydych yn teimlo bod eisiau cymorth iechyd meddwl arnoch, cwblhewch ffurflen ar eich cyfer chi hefyd).

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar draws y ddau gampws. Fodd bynnag, ni ellir gorfodi unrhyw fyfyriwr i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os nad yw’n dymuno ymgysylltu â ni.

Dylech hefyd annog eich ffrind i gysylltu â’i feddyg teulu i drafod ei deimladau.

Sylwer, caiff Ffurflen Cymorth Myfyrwyr eu cysylltu â chyfrif e-bost myfyrwyr yn y brifysgol, a chyfathrebir â’r cyfeiriad e-bost hwn yn unig. Felly, RHAID i’r unigolyn sy’n ceisio cymorth, nid trydydd parti, gwblhau’r ffurflenni cyfeirio.

Os yw eich pryderon yn ymwneud â chyflwr meddygol hirdymor eich ffrind (nid iechyd meddwl), nam ar y synhwyrau neu gorfforol neu anawsterau dysgu penodol, dylech ei annog i gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd.