Cyllid i Fyfyrwyr y DU

Mae'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yn grant i’ch helpu gyda chostau ychwanegol y gallech eu hwynebu oherwydd anabledd.  Gall helpu i dalu am bethau fel meddalwedd gyfrifiadurol, tiwtoriaid sgiliau astudio arbenigol, rhywun i gymryd nodiadau, mentora arbenigol a chostau teithio.

Cofia ddechrau dy gais am DSA mor gynnar â phosibl oherwydd gall y broses gymryd hyd at 14 wythnos. Am ragor o wybodaeth am DSA, cer i'r Hyb DSA

Os ydych chi’n ansicr a ddylech chi wneud cais am DSA, cysylltwch â’ch corff  cyllido cyn gynted â phosib:

Cyrff cyllido eraill

Gall y broses ymgeisio fod yn wahanol ar gyfer cyrsiau a chyrff cyllido penodol. Dylet ti gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd am ragor o gyngor ar gyflwyno cais am DSA os yw’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:

  • Rydych chi'n byw yng Ngweriniaeth Iwerddon
  • Byddwch yn astudio am MSc mewn Gwaith Cymdeithasol
  • Byddwch yn derbyn bwrsariaeth gan gyngor ymchwil (e.e. yr EPSRC)
  • Mae eich cwrs yn denu cyllid gan GIG Cymru (e.e. Nyrsio, Gwyddor Barafeddygol)

Proses Cyflwyno Cais am DSA

  1. Cyflwyna gais am DSA drwy dy borth cyllid myfyrwyr. Fel arall, gelli di lawrlwytho'r ffurflen gais am DSA o wefannau Cyllid Myfyrwyr Lloegr neu Gyllid Myfyrwyr Cymru, ei chwblhau ac yna ei chyflwyno ynghyd â dy dystiolaeth.
  2. Bydd eich corff cyllido'n asesu eich cais ac yn ysgrifennu atoch i ofyn i chi fynd am asesiad anghenion (cyfeirir at hyn yn aml fel llythyr DSA1). Mae asesiad anghenion yn gyfarfod anffurfiol rhwng myfyriwr ac aseswr anghenion i drafod effaith anabledd a/neu gyflwr y myfyriwr ar ei astudiaethau.
  3. Cysylltwch â’ch Canolfan Asesu leol i drefnu asesiad anghenion. I gael manylion am y ganolfan achrededig agosaf atoch chi, ewch i: https://www.gov.uk/disabled-students-allowances-assessment-centre.
  4. Ewch i’ch asesiad anghenion.
  5. Bydd yr aseswr anghenion yn ysgrifennu adroddiad ac yn ei anfon atoch chi ac at eich corff cyllido i’w gymeradwyo.
  6. Bydd eich corff cyllido'n anfon llythyr atoch y cyfeirir ato'n aml fel llythyr DSA2. Mae llythyr DSA2 yn esbonio pwy fydd yn darparu'r cymorth a argymhellwyd a sut gallwch gysylltu â nhw i drefnu eich cymorth. Byddai o gymorth pe gallech anfon copi at y Brifysgol rydych chi wedi ei dewis.

Cyllid i fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr yr UE

Mae Prifysgol Abertawe'n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ag anableddau. Mae’n bwysig i chi ddweud wrthym am eich anghenion cymorth cyn gynted â phosib fel y gallwn siarad â chi am opsiynau.

Er na all myfyrwyr rhyngwladol hawlio DSA, efallai y gallwch gael cyllid drwy eich llywodraeth gartref, noddwyr neu ysgoloriaethau. Mae'n bosib y bydd ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol y gallwch gyflwyno cais am gyllid iddynt, megis  Cynllun Dyfarniadau'r Snowdon Trust sy’n cynnig grantiau i gefnogi myfyrwyr â chyflyrau corfforol neu synhwyraidd.

Mae’r British Council yn darparu rhagor o wybodaeth.