Dweud wrthym am eich anghenion (datgeliad)

Os ydych yn meddwl cyflwyno cais i Brifysgol Abertawe, gallwch rannu gwybodaeth am eich anabledd â ni unrhyw bryd. Os ydych chi'n rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosib, gallwn sicrhau bod y cymorth a'r gefnogaeth iawn ar gael i chi.

Fyddwn ni ddim yn rhannu eich gwybodaeth oni bai eich bod yn rhoi caniatâd i ni a fyddwn ni ddim yn ei rhannu â neb ond y bobl berthnasol i sicrhau bod y cymorth angenrheidiol ar gael i chi.

Rwyf wedi datgelu anabledd ar fy ffurflen UCAS. Beth nesaf?

  1. Byddwn yn anfon Ffurflen Cymorth Myfyrwyr atoch i’w lenwi, a fydd yn gofyn am fanylion eich anabledd, eich anhawster dysgu penodol neu’ch iechyd meddwl, eich cyflwr sbectrwm awtistig neu’ch cyflwr meddygol. Anfonwch hwn yn ôl atom cyn gynted â phosib, i ni gael syniad o'r gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch, ac felly bydd digon o amser gennym i archwilio'r opsiynau gyda’n gilydd.

  2. Beth am ddod i ddiwrnod agored? Mae'n gyfle gwych i archwilio'r campws a'r ardal leol. Bydd yn gyfle hefyd i ymweld â’r Ysgol rydych wedi ei dewis, trafod eich cwrs a dod i wybod am y cyfleusterau a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi. Darllenwch ragor am ein Diwrnodau Agored.

 Rwyf wedi derbyn cynnig, beth sydd nesaf?

  1. Bydd y brifysgol yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch  anabledd neu eich cyflwr. I gael manylion am yr hyn y bydd angen i chi ei anfon atom, darllenwch ein tudalen Tystiolaeth Ategol.
  2. Cyrraedd! Cysylltwch â'r Gwasanaeth Anabledd a Lles cyn gynted â phosib i ni gael cyfle i roi eich cefnogaeth ar waith. Gweler ein manylion cyswllt.