Er mwyn ystyried addasiadau academaidd ac asesu posibl, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddigonol o anabledd, cyflwr corfforol/iechyd meddwl hirdymor, Cyflwr y Sbectrwm Awtistig (ASC) neu Anhawster Dysgu Penodol (ADP) i’r Brifysgol. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn ni roi’r cymorth mwyaf priodol ar waith.

Anableddau a Chyflyrau Tymor Hir

Bydd angen tystiolaeth o anabledd neu gyflwr iechyd corfforol/meddyliol tymor hir, megis epilepsi neu iselder ysbryd, wedi'i darparu gan ymarferydd iechyd proffesiynol (megis meddyg teulu neu seiciatrydd). Dylai'r dystiolaeth gynnwys manylion am yr agweddau allweddol canlynol:

  • Diagnosis/diagnosis gweithio neu ddisgrifiad o’r anawsterau
  • Hyd neu'r dyddiad y dechreuodd y cyflwr
  • Effaith ar weithgareddau o ddydd i ddydd a/neu allu i astudio

Cyflyrau'r Sbectrwm Awtistig

Bydd angen i dystiolaeth o Gyflwr y Sbectrwm Awtistig, megis Syndrom Asperger, gael ei darparu gan ymarferydd iechyd proffesiynol (megis meddyg teulu neu seiciatrydd) neu bydd angen adroddiad asesu diagnostig llawn wedi'i gwblhau gan Seicolegydd Addysgol. Mae'r Brifysgol yn cydnabod Cyflyrau'r Sbectrwm Awtistig fel cyflyrau gydol oes, felly byddwn yn derbyn tystiolaeth o ddiagnosis a wnaed ar unrhyw oedran. Dylai'r dystiolaeth gynnwys manylion am yr agweddau allweddol canlynol:

  • Diagnosis/diagnosis gweithio neu ddisgrifiad o anawsterau
  • Hyd neu'r dyddiad y dechreuodd y cyflwr
  • Effaith ar weithgareddau o ddydd i ddydd a/neu allu i astudio

Anawsterau Dysgu Penodol

Bydd angen i dystiolaeth o anhawster dysgu penodol, megis dyslecsia, gael ei darparu ar ffurf adroddiad asesu diagnostig llawn wedi'i gwblhau naill ai gan Seicolegydd Addysgol neu Athro Arbenigol sy'n meddu ar dystysgrif ymarfer gyfredol.

  • Dylai'r adroddiad ddefnyddio'r fformat a'r profion a argymhellir yng Nghanllawiau'r Gweithgor Anawsterau Dysgu Penodol. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd
  • Dylech gysylltu â Chydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig eich ysgol i ofyn am gasglu tystiolaeth neu, os ydych eisoes wedi cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe, cysylltwch â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd am ragor o gyngor ar drefnu adroddiad diagnostig.

Cyflwyno cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)?

Os ydych chi'n fyfyriwr o'r DU sy'n bwriadu cyflwyno cais am y DSA, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i'ch corff cyllido hefyd. Mae gan gyrff cyllido ffurflenni tystiolaeth feddygol penodol yn aml, a byddem yn eich cynghori i ddefnyddio'r rhain lle bynnag y bo modd i sicrhau nad yw eich cais yn cael ei oedi.