Rhagor o wybodaeth am y diwrnod

Y DIGWYDDIAD ARDDANGOS YMCHWIL ÔL-RADDEDIG

Mae'r Digwyddiad Arddangos Ymchwil Ôl-raddedig yn cynnwys rownd derfynol y gystadleuaeth Thesis Tair Munud, lle bydd un o'r cyfranogwyr yn cael ei goroni'n enillydd Prifysgol Abertawe. Mae ymchwilwyr ar draws y Brifysgol yn rhannu eu hangerdd am eu pwnc ac yn wynebu'r her o hysbysu a chysylltu cynulleidfa amlddisgyblaethol â'u pwnc ymchwil mewn llai na thair munud!

Mae gan fyfyrwyr gyfle arall i ennill gwobrau yng Nghystadleuaeth Boster PGR Prifysgol Abertawe, lle bydd pob un o'r pum person sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cyflwyno eu poster i geisio creu argraff ar y panel beirniadu.

Ar ddiwedd y dydd, mae'r Brifysgol yn cydnabod cyflawniadau anhygoel ein Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig ac yn cyhoeddi enillwyr y cystadlaethau 3MT a Phoster yn ein Seremoni Wobrwyo, a gynhelir gan Ddeon Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe, yr Athro Nuria Lorenzo-Dus.

Cynhelir y Digwyddiad Arddangos Ymchwil Ôl-raddedig nesaf ym mis Mai 2020.

PGR showcase icon