Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Sinc Magnesiwm Alwminiwm (ZMA) a grëwyd gan ddefnyddio microsgop optegol â chwyddiad 70X (Nathan Cooze)

Mae grwpiau newid yn yr hinsawdd, cwmnïoedd ac ymchwilwyr prifysgolion ledled y DU wedi bod yn archwilio sut y gallant gyfrannu at ddiwydiant dur sy'n fwy clyfar, gwyrdd a glân mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan brosiect SUSTAIN, dan arweiniad Abertawe.

Y digwyddiad hwn, a gynhaliwyd yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain, oedd y tro cyntaf mae cynrychiolwyr o amrywiaeth mor eang o sectorau wedi dod ynghyd i ystyried sut y gall ymchwil lywio dyfodol y diwydiant dur, ei brosesau a'i gynnyrch.

Y prif bwynt a ddaeth i'r amlwg oedd bod dur, sef y deunydd a ailgylchir fwyaf yn fyd-eang, yn rhan o'r ateb, nid y broblem, o ran rhoi hwb i dwf economaidd mewn ffordd sy'n amgylcheddol gynaliadwy.

Mae SUSTAIN yn rhwydwaith ymchwil gwerth £35 miliwn â'r nod o drawsnewid sector dur y DU yn ddiwydiant niwtral o ran carbon, diwastraff sy'n hyblyg yn ddigidol ac sy'n ymateb i anghenion ei gwsmeriaid, sy'n gallu newid yn gyflym.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac ar y cyd â Phrifysgolion Sheffield a Warwick, mae'r rhwydwaith eisoes yn cynnwys dros ugain o bartneriaid ar draws diwydiant dur y DU, gan gynnwys: gweithgynhyrchwyr cynradd, cadwyni cyflenwi, cyrff masnachu, arbenigwyr academaidd a sefydliadau ymchwil.

Nod y digwyddiad yn Llundain, y daeth mwy na 100 o bobl iddo, oedd ehangu'r rhwydwaith hwn o bartneriaid a chydweithwyr ymhellach.

Mae cyllid gwerth £1 miliwn ar gael i ymchwilwyr newydd ar gyfer astudiaethau dichonoldeb a gwaith prosiect ategol. Gall yr ymchwil hon fod yn seiliedig ar un o 5 prif faes y prosiect SUSTAIN, isod, neu o bosib ar thema ychwanegol os yw'n briodol. 

  • Rheoli/defnyddio allyriadau
  • Gweithgynhyrchu dur diwastraff
  • Arloesedd a ysgogir gan ddata
  • Cynhyrchu ynni isel clyfar
  • Prosesau newydd ar gyfer cynnyrch newydd

Meddai Richard Curry, rheolwr rhaglen ymchwil SUSTAIN:

"Roedd brwdfrydedd mawr gan bawb yn y digwyddiad: academyddion, economi gylchol bresennol a grwpiau newid yn yr hinsawdd a'r diwydiannau cadwyni cyflenwi.

Y neges glir oedd bod dur yn rhan o'r ateb, nid y broblem. Mae'n ddiwydiant y dyfodol, nid y gorffennol, ac mae'n hanfodol o ran creu ffordd lwyddiannus a chynaliadwy ymlaen.

Roedd ein trafodaeth yn gyfle i gael golwg newydd ar y cyfleoedd a datblygu atebion arloesol ac ymarferol. Byddwn yn ailymgynnull ac yn gweithio ar syniadau, timoedd a chynigion y prosiect. Yna, bydd modd asesu'r cynigion fel y gallwn benderfynu ar sut i ddyrannu cyllid."

Meddai'r Athro Cameron Pleydell-Pearce, sy'n arbenigwr mewn dur ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ddirprwy gyfarwyddwr SUSTAIN:

"Mae SUSTAIN yn bleidlais fawr o hyder yn y diwydiant dur. Bydd yn cefnogi gweledigaeth y diwydiant i wireddu dyfodol sy'n gyfrifol, yn arloesol ac yn greadigol. 

Rydym ni eisoes ar y ffordd i weithgynhyrchu dur mewn ffordd lanach, gwyrddach a mwy clyfar ond mae'r digwyddiad hwn, drwy greu cysylltiadau a phartneriaethau posib, yn gam enfawr arall ymlaen." 

Darllenwch fwy: arloesedd dur ym Mhrifysgol Abertawe

Llun: Sinc Magnesiwm Alwminiwm (ZMA) a grëwyd gan ddefnyddio microsgop optegol â chwyddiad 70X (Nathan Cooze, Prifysgol Abertawe)

Rhannu'r stori