Rydym yn hwb ar gyfer rhagoriaeth weithgynhyrchu

Rydym yn hwb ar gyfer rhagoriaeth weithgynhyrchu

Yr Her

Hyd yn oed o ran cynnyrch sy'n ymddangos yn syml, mae gweithgynhyrchu'n broses gymhleth iawn oherwydd cymhlethdod ymddygiad deunyddiau a'r broses o lunio cynnyrch terfynol. Wrth i anghenion diwydiant, rhesymau amgylcheddol a'r gymdeithas newid a datblygu, mae angen cynyddol am atebion gweithgynhyrchu sy'n addasol, yn gynaliadwy ac yn arloesol.

Y Dull

Mewn ymateb, sefydlodd yr Athro Sienz ddwy ganolfan ymchwil:

  1. ASTUTE (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) - Canolfan Ragoriaeth a sefydlwyd er mwyn gwneud y gorau o rannu gwybodaeth rhwng byd diwydiant a'r byd academaidd drwy brosiectau ymchwil cydweithredol gyda chwmnïau gweithgynhyrchu cenedlaethol.
  2. Y Sefydliad Technolegau Deunyddiau, Prosesu a Rhifiadol Arloesol (IMPACT) - Canolfan Ragoriaeth a sefydlwyd er mwyn mynd i'r afael â'r gofyniad diwydiannol byd-eang am ymchwil sylfaenol. Mae IMPACT yn hyrwyddo ymchwil draws-golegol wedi'i hysbrydoli gan ddiwydiant gyda'r gallu, drwy adeilad arloesol IMPACT, i gynnig cyfle i fusnesau gyd-leoli ynghyd â mynediad at gyfleusterau megis y gweithdy cynllun agored 1,600m2.

Mae partneriaethau rhwng y byd academaidd a byd diwydiant sy'n meithrin perthnasoedd cydweithredol a hirdymor yn allweddol wrth ddatblygu atebion peirianneg a gweithgynhyrchu uwch. Mae'r canolfannau ymchwil hyn wedi dod â ni'n nes at fyd diwydiant, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Yr Effaith

Mae'r canolfannau wedi llwyddo i gael effaith anferth yn economaidd, yn amgylcheddol ac o ran iechyd, ac mae byd diwydiant wedi'u defnyddio'n helaeth.Mae ASTUTE, er enghraifft, wedi mynd i'r afael â llawer o heriau economaidd gyda sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol drwy fwy na 100 o brosiectau cydweithredol rhwng byd diwydiant a'r byd academaidd.Mae hyn yn cynnwys:

  • TATA Steel - optimeiddio gweithrediadau peiriannau Sintro a gwireddu arbediad o 10% o ran effeithlonrwydd ynni.
  • ProHeat - lleihau defnydd o ynni ar gyfer thermoseiffonau, gan arwain at leihau allyriadau CO2 yn sylweddol bob blwyddyn.
  • Calon Cardio/Haemair - datblygu pympiau i helpu'r galon ac ocsigeneiddwyr sy'n newydd i'r farchnad, ar gyfer cleifion â methiant cronig ar y galon a chlefyd yr ysgyfaint.
  • Aluminium Lighting Company - defnyddio deinameg hylifau gyfrifiadol er mwyn rhagfynegi effaith osgiliadau a achosir gan y gwynt ar golofnau goleuni, sy'n arwain at gynnyrch newydd a miliynau o werthiannau'n fyd-eang.

Mae partneriaethau IMPACT yn cynnwys ENSERV Power, Vestas, Dolomite, Airbus, Crown Packaging, Google, Facebook, Western Power a Microsoft i enwi rhai ohonynt.

Mae partneriaid diwydiannol ac academaidd sydd wedi'u cyd-leoli hefyd yn canolbwyntio, ynghyd ag ymchwilwyr peirianneg, ar bynciau’n ymwneud â Diwydiant 4.0 a'r rhyngrwyd pethau a geir yn y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu'r Dyfodol newydd, a sefydlwyd hefyd gan yr Athro Sienz.

Roedd ymchwilwyr a staff IMPACT ac ASTUTE yn gyflym i ymateb i bandemig y coronafeirws drwy fentrau megis Ffermydd Argraffu 3D ar y Rheng Flaen sy'n cynhyrchu amddiffynwyr wyneb ar gyfer y GIG - gyda sawl prosiect ychwanegol bellach ar y gweill.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
9 Industry Diwydiant, arloesi a seilwaith
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe