Professor Johann Sienz

Yr Athro Johann Sienz

Dirprwy Ddeon Gweithredol, Science and Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295521

Cyfeiriad ebost

A_102
Llawr Cyntaf
Adeilad Canolog Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Derbyniodd yr Athro Johann Sienz y Diplom-Ingenieur (FH) mewn Peirianneg Fecanyddol gydag arbenigedd mewn Peirianneg Awyrofod o Brifysgol Gwyddorau Cymhwysol Augsburg, yr Almaen, yn 1989, BEng (Anrh) o Brifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, y DU, yn 1989, MSc yn 1990 a Ph.D. yn 1994, o Brifysgol Abertawe, y DU.

Mae ganddo Gadair Bersonol yn y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe, lle mae'n Ddirprwy Bennaeth y Coleg ac yn Gyfarwyddwr Arloesi ac Ymgysylltu.
Mae'n cyfarwyddo gweithgaredd partneriaeth pedair prifysgol ASTUTE 2020 gwerth £14.3m (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch; www.astutewales.com), wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, am gyfnod o bum mlynedd. Mae hwn yn weithgaredd dilynol i'r prosiect ASTUTE pan-Gymru gwerth £26.7m am bum mlynedd, yn bartneriaeth wyth prifysgol ddaeth ag academyddion a chwmnïau gweithgynhyrchu at ei gilydd i gydweithio ar bynciau uwch ym maes gweithgynhyrchu mewn sectorau fel awyrofod, peirianneg modurol a meddygol. Cynhyrchodd y prosiect hwn dros £200m o effaith economaidd i'r rhanbarth.

Mae hefyd yn cyfarwyddo canolfan hyfforddi doethuriaeth ddiwydiannol gwerth £2.2m, wedi’i hariannu’n rhannol gan EPSRC (Manufacturing Advances Through Training Engineering Research), lle bydd arweinwyr peirianneg y dyfodol yn gwneud gwaith ymchwil cydweithredol gyda diwydiant ac yn graddio gyda doethuriaeth. Mae ei holl brosiectau'n cynnwys cydweithio helaeth â diwydiant yn wyneb sylfaen dechnoleg sy'n newid yn gyflym.

Mae'n Gymrawd o Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (FIMechE) a'r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (FRAeS), ac yn Aelod o'r Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (MIMA). Mae'n Beiriannydd Siartredig (CEng) ac yn Fathemategydd Siartredig (CMath). Mae'n Brif Olygydd y Cyfnodolyn Rhyngwladol "Applied Mathematical Modelling" yn ogystal â bod ar fwrdd golygyddol sawl cyfnodolyn rhyngwladol arall.