Chwaraeon Abertawe yw cartref popeth sy'n gysylltiedig â chwaraeon a gweithgarwch corfforol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ein tîm o weithwyr proffesiynol cymwysedig a phrofiadol yn y diwydiant yn llawn brwdfrydedd dros chwaraeon, iechyd a llesiant, gan gredu'n gryf yn yr effaith anhygoel y gall cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ei chael ar fywydau a dyfodol pobl.

Ceir cyfleusterau eithriadol mewn lleoliad hyfryd ar lan y môr, a does unman fel Abertawe i ymarfer chwaraeon a chael ffordd o fyw actif. P'un a ydych yn gwbl newydd neu'n ymdrechu i fod yn broffesiynol, rydym yn cynnig croeso cynnes i bawb yn Abertawe.

Mae ein rhaglen Bod yn ACTIF yn cynnig hwyl a ffitrwydd ac addewid i sicrhau y byddwch yn symud mwy, ac mae ein 56 o glybiau chwaraeon yn cynnig rhywbeth i bawb. I'r rheini sy'n anelu'n uwch, rydym yn cynnig rhaglenni perfformiad uchel mewn nifer o chwaraeon allweddol, a chyfleoedd am ysgoloriaethau i gefnogi dyheadau gyrfa ddeuol.

Mae chwaraeon yn rhan annatod o Abertawe ac rydym wedi bod yn meithrin mawrion y byd chwaraeon ers dros ganrif. Rydym yn edrych ymlaen at 100 mlynedd arall o ragoriaeth chwaraeon wrth i ni fuddsoddi yn ein tîm a'n seilwaith ac ymrwymo i wireddu ein gweledigaeth chwaraeon i drawsnewid bywydau a dyfodol pobl drwy chwaraeon a ffyrdd o fyw actif.

Ehangwch y penawdau isod i ddysgu am ein tîm ymroddedig ac i glywed mwy am stori Chwaraeon Abertawe.

Farsiti Cymru na ellir ei golli

100 mlynedd o ragoriaeth chwaraeon

CHWARAEON GLÂN YM MHRIFYSGOL ABERTAWE