Ysgoloriaethau a gwobrau rhagoriaeth ymchwil

Fel rhan o ymrwymiad Abertawe i gefnogi’r dalent ymchwil gorau rydym yn cynnig nifer o leoedd PhD wedi’u hariannu’n llawn ar draws disgyblaethau trwy ein rhaglenni blaenllaw, Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe (SURES) ac Ysgoloriaethau Ymchwil Partner Strategol Prifysgol Abertawe (SUSPRS).

Mae’r ddwy ysgoloriaeth yn cynnig nifer o leoedd PhD wedi’u hariannu’n llawn i ymchwilwyr sydd am ddatblygu eu syniadau, ochr yn ochr â darparu goruchwyliaeth ragorol a rhoi’r sgiliau i ymchwilwyr doethurol gwblhau eu traethawd ymchwil o fewn tair blynedd.

Mae SURES yn cydnabod cyflawniad academaidd rhagorol a’i nod yw denu’r dalent ymchwil orau o bob maes pwnc i Brifysgol Abertawe. Mae SUSPRS yn cynnig PhD partneriaeth ar y cyd gyda’r myfyriwr fel arfer yn treulio 50% o’i amser gyda’r sefydliad partner.

Mae’r ysgoloriaethau’n cynnwys ffioedd dysgu a chyflog blynyddol, a lwfans i gefnogi profiadau hyfforddi trochi, ymgysylltu â diwydiant, cyfleoedd cydweithredol rhyngwladol ac adeiladu carfanau.

Fel rhan o’n portffolio rhagoriaeth, rydym yn cydnabod ac yn dathlu cyrhaeddiad academaidd drwy wobrau James Callaghan, sy’n darparu cyllid i alluogi myfyrwyr ymchwil yn Abertawe i ddatblygu eu hymchwil.