Tirion Thomas

Tirion Thomas

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BMid Bydwreigiaeth

Roedd yn bwysig i mi gwblhau fy nghwrs yng Nghymru ac roedd Abertawe’n teimlo’n gartrefol gyda staff cyfeillgar, cefnogol ac mor frwdfrydig am y cwrs. Yn ogystal, roeddwn yn gwybod bod Prifysgol Abertawe yn sefydliad arbennig iawn gydag enw da ar gyfer Bydwreigiaeth.

Mae’n gwrs dwys gyda hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau ymarfer, gan weithio gyda bydwragedd mewn timau cymunedol, canolfannau geni a arweinir gan fydwreigiaeth ac unedau mamolaeth mewn ysbytai. Mae’r cwrs wedi gallu rhoi'r cydbwysedd i mi barhau mewn addysg yn ogystal â chael blas ar y byd gwaith go iawn. Er yn gwrs anodd dwi’n gwybod fy mod i ar y radd gywir ac rwy’n mwynhau pob eiliad wrth ddod a llawenydd newydd mewn i'r byd bob dydd yn ogystal â chefnogi mamau a’u teuluoedd trwy rhai o amserau anoddaf eu bywydau.

Mae’r ffaith mod i wedi parhau i astudio elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi'r gallu i mi ddarparu gofal i fenywod yn ei mamiaith sydd mor bwysig er mwyn cynnig y gofal gorau posib. Fe ddysgais siarad Cymraeg pan yn unarddeg oed ac mae’n rhywbeth rwyf yn falch iawn ohono ac felly mae’n bwysig i mi barhau i’w defnyddio hi. Mae’r gymuned Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn un arbennig iawn ac yn un rwy’n ei werthfawrogi’n fawr - mae pawb mor gyfeillgar.