Beth yw'r Grant Cymunedol?

Mae ein Grant Cymunedol yn cynnig hyd at £250 i gymdeithas myfyrwyr sydd â syniad o sut i wella cymuned ddaearyddol a fydd o fudd i fyfyrwyr ac aelodau'r gymuned. Gall hyn fod yn rhywbeth mor syml â phrosiect casglu sbwriel neu harddu, neu ddigwyddiad cymunedol mwy. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm cymunedol a fydd yn hapus i'ch helpu. 

Nodiadau ar wneud cais, cymhwysedd ac arweiniad

Y Wobr Gymdogol

Mae Cymuned@BywydCampws yn cyflwyno'r Wobr Gymdogol i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Bydd y myfyrwyr hyn yn cael eu henwebu gan drigolion lleol am eu cyfraniad i'r gymuned ac ymddygiad cymdogol rhagorol. Nod Prifysgol Abertawe yw annog myfyrwyr i fod yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Bydd y sgiliau sydd eu hangen i fod yn gymydog da yn bwysig am oes. 

Dyma'r meini prawf wrth ystyried rhywun i enwebu: 

  • Dod i adnabod cymdogion 
  • Bod yn ymwybodol ac yn ystyriol o sŵn drwy gydol y dydd a'r nos 
  • Gwaredu gwastraff yn briodol ac yn gyfrifol 
  • Bod yn aelod gweithgar o'r gymuned. 

Ydych chi wedi cael cymdogion myfyrwyr ystyriol a chymwynasgar eithriadol? A oes myfyriwr unigol, tŷ myfyrwyr neu gymdeithas wedi cefnogi preswylwyr i wneud gwahaniaeth i ble rydych yn byw? Rhannwch eich rhesymau fel y gallant dderbyn y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Gallwch gyflwyno enwebiad gan ddefnyddio'r ffurflen isod: 

Ffurflen Enwebu - Y Wobr Gymdogol