Logo: Accelerating towards Net Zero.

Prifysgol Abertawe yw'r unig brifysgol yng Nghymru sydd wedi cael ei henwi yn adroddiad cyntaf The Royal Anniversary Trust, sy'n amlinellu cynllun uchelgeisiol i ddatgarboneiddio'r sector addysg drydyddol.

Mae prosiectau lleihau carbon allweddol Prifysgol Abertawe wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, sef “Accelerating towards Net Zero”, yr un cyntaf o'i fath, sy'n amlygu meysydd targed ar gyfer adrodd am allyriadau a'u lleihau. Mae'n cynnig fframwaith safonedig newydd ar gyfer adrodd am garbon a fydd yn galluogi pob sefydliad addysg bellach ac addysg uwch i fesur allyriadau carbon, adrodd amdanynt a'u rheoli. 

Mae'r adroddiad yn deillio o brosiect ymchwil a wnaeth bara am flwyddyn – Her y Jiwbilî Blatinwm – dan arweiniad 21 o sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach o bob rhan o'r DU a oedd, fel Prifysgol Abertawe, yn enillwyr diweddar Gwobr Pen-blwydd y Frenhines uchel ei bri. Mae'n gorffen gyda 14 o argymhellion clir i Lywodraeth y DU a blaenoriaethau i'r sector a fydd yn cyflymu'r cynnydd tuag at sero net.

Mae'r adroddiad yn cynnwys prosiect a ariennir dan arweiniad myfyrwyr Prifysgol Abertawe, a oedd yn un o bum prosiect myfyrwyr i gael eu cynnwys, yn ogystal ag astudiaethau achos arloesol:

  • Yr Her Myfyrwyr: Wedi'i ddethol a'i gefnogi gan Gronfa Gwobr Her Myfyrwyr Jiwbilî Blatinwm y Frenhines, nod y prosiect hwn a arweinir gan fyfyrwyr yw defnyddio mannau presennol y Brifysgol i greu darpariaethau ar gyfer bioamrywiaeth a dal carbon ar y campws ac yn yr ardal leol drwy gynhyrchu deunyddiau i helpu i adfer mawndiroedd ar raddfa eang ledled y rhanbarth, a chreu neu wella ardaloedd ar y safle i dyfu rhywogaethau cynhenid, megis migwyn a blodau gwyllt, a all wella cynefinoedd yn gyflym ac yn sylfaenol at ddibenion dal carbon a byd natur.
  • Yr ystafell ddosbarth gyntaf yn y DU sy’n effeithlon o ran ynni: Mewn cydweithrediad â phartneriaid megis Tata Steel, mae Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC yn arloesi adeiladau ynni gweithredol sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni solar eu hunain. Rhan o'r prosiect hwn yw'r Ystafell Ddosbarth Ynni Gweithredol, a ddatblygwyd yn 2016 fel ystafell ddosbarth effeithlon o ran ynni gyntaf y DU ochr yn ochr â'r newid i ynni gwyrdd, drwy integreiddio cynhyrchu ynni adnewyddadwy hunangynhaliol â mannau storio a mesurau rheoli clyfar. Gallai'r adeiladau hyn feithrin dealltwriaeth fwy datblygedig o ddefnydd ynni.
  • ‘Gateway to Zero’: Nod y prosiect blaenllaw hwn, mewn cydweithrediad â chwmnïau'r sector preifat, awdurdodau lleol a busnesau rhanbarthol eraill, yw lleihau'r allyriadau carbon Cwmpas 3 anuniongyrchol “oddi ar y campws” sy'n gysylltiedig â threfniadau teithio a thrafnidiaeth y Brifysgol o ran y gadwyn gyflenwi, gwastraff a threuliau'r gwasanaethau, drwy greu hyb storio trydan a hydrogen ar gyfer cludiant sydd wedi'i bweru mewn modd adnewyddadwy ac sydd ag isadeiledd gwefru. Byddai'r hyb hwn, yr un cyntaf o'i fath, yn hwyluso amrywiaeth o weithgareddau ymchwil ac arloesi ac yn annog y broses o fabwysiadu cerbydau allyriadau isel drwy fentrau arloesol gan gynnwys treialu bysus H2, a fyddai'n cael eu harloesi ar wasanaeth rhwng campysau Abertawe a gynhelir bob 15 munud, ddydd a nos.
  • Labordai LEAF Cynaliadwy: Mae Prifysgol Abertawe'n mabwysiadu rhaglen LEAF (Fframwaith Asesu Effeithlonrwydd Labordai) ar draws ei labordai er mwyn gwella eu cynaliadwyedd a'u heffeithlonrwydd.

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Ar ôl ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2021, rwy'n falch mai Abertawe yw'r unig brifysgol yng Nghymru sydd wedi cael ei chynnwys yn yr her sero net flaenllaw hon. Mae ein timau ymchwil a gweithrediadau campws wedi cydweithio ar y prosiect cyffrous hwn, ochr yn ochr â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach eraill, er mwyn datblygu fframwaith i adrodd am allyriadau carbon. Mae'r adroddiad yn dangos yr hyn sy'n bosib drwy gydweithredu'n effeithiol a rhannu'r un uchelgais, ac yn darparu cynllun clir i alluogi ein sector i gyflawni ein targedau sero net hollbwysig.”

Meddai Kristina Murrin, Prif Swyddog Gweithredol The Royal Anniversary Trust: “Ein huchelgais oedd dod ag enillwyr eithriadol Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines ynghyd i fynd i'r afael â her gyffredin anodd ar y cyd. Mae'r adroddiad dilynol yn nodi cynllun gweithredu clir ar gyfer y sector addysg drydyddol i gyflymu'r cynnydd tuag at sero net, ynghyd ag argymhellion i sefydliadau a Llywodraeth y DU. Rydyn ni’n hynod falch o'r fframwaith arfaethedig i adrodd am allyriadau carbon – os caiff ei fabwysiadu ar draws y sector, bydd hwn yn hwyluso penderfyniadau cyson a thryloyw sy'n seiliedig ar ddata.”

Rhannu'r stori