Anesthetydd mewn ystafell ysbyty, yn sefyll wrth ochr claf yn gorwedd.

Ar ôl i sgandal Horizon Swyddfa'r Post amlygu natur annibynadwy tystiolaeth gyfrifiadurol, mae llyfryn newydd wedi cael ei gyhoeddi sy'n rhybuddio am faterion TG a allai fod yn niweidiol ym maes gofal iechyd.

Mae Harold Thimbleby, athro emeritws cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, a'i wraig, Prue Thimbleby, newydd gyhoeddi Patient Safety — stories for a digital world, llyfryn sy'n seiliedig ar lyfr arobryn yr Athro Thimbleby Fix IT (Oxford University Press).

Wrth ganmol y llyfr ar y pryd, dywedodd y beirniaid yng ngwobrau llyfrau Cymdeithas Feddygol Prydain y dylai pob aelod staff ym maes gofal iechyd ei ddarllen.

“Fodd bynnag, mae staff gofal iechyd yn brysur, felly rydyn ni wedi ysgrifennu'r fersiwn bwerus hon y gellir ei darllen yn gyflym. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y llyfryn yn cael ei ddarllen yn eang ac yn cael effaith ar y ffordd rydyn ni'n meddwl am gyfrifiaduron ac yn helpu i osgoi sefyllfaoedd fel sgandal Horizon yn y dyfodol,” meddai'r Athro Thimbleby.

“Flynyddoedd yn ôl, roedd meddygon cwac yn beryglus i bawb. Ymatebodd y Llywodraeth drwy basio Deddf Feddygol 1858 oherwydd, yng ngeiriau agoriadol y Ddeddf, ei bod hi'n ddoeth galluogi pobl y mae angen cymorth meddygol arnyn nhw i wahaniaethu rhwng ymarferwyr cymwysedig ac anghymwys.

“Rydyn ni bellach yn meddwl bod y syniad o gofrestru meddygon cymwysedig yn amlwg ohono'i hun. Mae'n hen bryd i'r Llywodraeth ddeddfu fel y gall pawb osgoi dioddef o ganlyniad i systemau cyfrifiadurol cwac.” 

Ychwanegodd: “Ar hyn o bryd, pan fydd anesthetydd yn pwyso ar fotwm i wneud i chi gysgu, rhaid iddo fod yn gymwys a meddu ar gymwysterau cyfredol ar ôl cael blynyddoedd o hyfforddiant. Eto, does neb yn gwybod beth mae'r botwm hwnnw wir yn ei wneud i chi, oherwydd cafodd ei raglennu gan rywun nad yw wedi pasio unrhyw gymwysterau perthnasol o bosib. 

“Does dim rheoliadau sy'n llywodraethu cymwysterau pobl sy'n rhaglennu unrhyw system, boed hynny am gyfrifyddu (fel yn achos Horizon) neu roi anesthetyddion, neu unrhyw beth arall.” 

Mae'r awduron yn galw am gamau gweithredu brys gan y Llywodraeth fel y gall cleifion fod yn siŵr y bydd systemau'r dyfodol yn cael eu creu gan ddatblygwyr â'r cymwysterau priodol ac yn cael eu hardystio i nodi eu bod nhw’n bodloni safonau diogelwch ac ansawdd.

Mae Patient Safety - stories for a digital world yn archwilio problemau Horizon Swyddfa'r Post a straeon cyfochrog ar draws y GIG ac yn rhyngwladol. Mae'n disgrifio sgoriau diogelwch a gwelliannau rheoleiddio hanfodol yn ogystal â chynnig cyngor i unrhyw un sy'n wynebu camau disgyblu neu sy'n cael problemau cyfrifiadurol neu'n ymchwilio iddyn nhw.

Rhagor o wybodaeth am y llyfr a sut i'w brynu neu lawrlwytho PDF am ddim i'w ddarllen ar eich cyfrifiadur neu eich llechen

 

Rhannu'r stori