Dyn yn sefyll y tu allan i adeilad gyda baneri rhyngwladol yn chwifio y tu ôl iddo

Yr Athro Michael Draper yn ystod ei ymweliad â Chyngor Ewrop yn Strasbwrg.

Mae grŵp o interniaid y gyfraith yn Abertawe wedi bod yn helpu i lywio'r drafodaeth ynghylch uniondeb academaidd drwy rannu eu barn ag ymarferwyr addysg uwch proffesiynol.

Bu'r myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn gweithio gyda'r Athro Michael Draper ar y rhifyn diweddaraf o'r Quality Compass, cyfres ar-lein a gyhoeddir gan Asiantaeth ar gyfer Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch y DU, sef y corff aelodaeth ar gyfer sefydliadau addysg uwch. 

Yn ogystal, cymerodd Zoë Birch, Megan Croombs ac Elenor Marano ran mewn sesiynau bord gron ar gyfer yr Asiantaeth ar ddeddfwriaeth newydd a fydd yn gwneud gwasanaethau twyllo academaidd masnachol (contract cheating) yn anghyfreithlon, wrth gwblhau interniaeth fer â thâl drwy Academi Cyflogadwyedd y Brifysgol. 

Roedd Elenor, sydd yn Abertawe fel rhan o'i rhaglen ddeuol ar y cyd â Phrifysgol Trent yng Nghanada, yn falch o gael cyfle i ddysgu rhagor am uniondeb academaidd. 

Meddai: "Roedd y term yn  gyfarwydd i mi, ond roedd fy nealltwriaeth o'i gysylltiad â'r gyfraith yn gyfyngedig. Roeddwn i'n awyddus i fod yn rhan o'r prosiect i fodloni fy chwilfrydedd, ac roeddwn i'n gwybod y gallai gweithio i lenwi'r bylchau yn fy ngwybodaeth ddangos safbwynt a maes hollol newydd i mi.

"Rwyf wrthi'n cwblhau gradd ddeuol mewn Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith yn Trent ac Abertawe, felly gwnaeth dysgu bod y maes hwn yn gysylltiedig â'r ddau bwnc danio fy niddordeb, a dweud y lleiaf. Ers i mi gwblhau'r prosiect, mae agwedd hollol newydd ar y gyfraith wedi agor i mi.

"Gan amlaf, mae myfyrwyr yn cael profiad goddefol o uniondeb academaidd - a doeddwn i ddim yn wahanol. Fodd bynnag, mae fy ngwybodaeth newydd wedi newid fy safbwynt a'r ffordd rwy'n trafod y pwnc â'm cyd-fyfyrwyr hefyd. Mae uniondeb academaidd yn golygu ymfalchïo yn eich gwaith, mae'n ymwneud â gwreiddioldeb a chreadigrwydd." 

Mae'r Athro Draper, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Addysg (Academïau), yn arbenigwr ym maes uniondeb academaidd ac roedd yn rhan o dîm y Brifysgol a wnaeth ymchwil proffil uchel i hyd a lled twyllo academaidd masnachol mewn addysg uwch.

Mae'r Athro Draper yn arwain ymdrechion i amlygu materion uniondeb academaidd ac, yn ddiweddar, cyflwynodd i gynrychiolwyr 45 o aelod-wladwriaethau Cyngor Ewrop yn Strasbwrg ar yr argymhelliad ar gyfer rhwystro twyll academaidd y cynorthwyodd i'w ddrafftio. 

Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn podlediadau ar gyfer Rhwydwaith Uniondeb Academaidd Iwerddon ac un arall ar gyfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a gaiff ei ryddhau'r mis nesaf, yn ogystal ag annerch digwyddiad Rhwydwaith Dysgu o Bell Ewrop a fydd yn archwilio materion ynghylch uniondeb ac asesu ar-lein.

 

Rhannu'r stori