Yr Athro Tom Crick, Prifysgol Abertawe; mae e wedi'i benodi'n Brif Gynghorydd Gwyddonol yr Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Yr Athro Tom Crick

Mae Llywodraeth y DU wedi penodi arbenigwr mewn polisi digidol o Abertawe'n Brif Gynghorydd Gwyddonol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, er mwyn rhoi arweinyddiaeth wyddonol, goruchwylio blaenoriaethau ymchwil a chynghori gweinidogion a swyddogion.

Tom Crick MBE yw Athro Polisi Digidol Prifysgol Abertawe, ar ôl rhoi'r gorau i'w rôl fel Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol yn arwain datblygiad strategol gweithgareddau Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol yn ddiweddar.   

Er bod ganddo gefndir ym maes cyfrifiadureg, mae diddordebau academaidd yr Athro Crick yn rhychwantu'r cysylltiad rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer a'r effaith ehangach ar gymdeithas, diwylliant a'r economi. Mae hyn yn cynnwys meysydd megis diwygio addysg a'r cwricwlwm, polisi gwyddoniaeth ac arloesi, deallusrwydd artiffisial, gwyddor data, seiberddiogelwch, trawsnewid digidol, a sgiliau ac isadeiledd yr economi ddigidol/ddata. 

Mae ei rôl yn Abertawe yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn bennaf, ac mae ganddo rôl ehangach yn y Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32m, gan adlewyrchu natur ryngddisgyblaethol ei ddiddordebau ymchwil a pholisi.   

Mae'r Athro Crick yn gymeriad rhyngwladol blaenllaw ym maes sgiliau digidol ac mae wedi dal uwch-rolau cynghorol ar fyrddau Nesta, Ofcom, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a BCS, y Sefydliad TG Siartredig. Mae ei waith wrth arwain y diwygiadau mawr i'r cwricwlwm gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf wedi cael ei gydnabod yn ddiweddar pan ddyfarnwyd Medal Hugh Owen 2023 iddo gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Medal Lovelace 2023 iddo gan BCS.

Mae Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cefnogi diwylliant, y celfyddydau, y cyfryngau, chwaraeon, twristiaeth a chymdeithas sifil ym mhob rhan o Loegr. Mae'r DU yn arwain y ffordd yn fyd-eang yn y sectorau hyn ac maent yn cyfrannu'n sylweddol at economi, ffordd o fyw ac enw da byd-eang y DU.

Ac yntau'n Brif Gynghorydd Gwyddonol, bydd yr Athro Crick yn darparu arweinyddiaeth wyddonol a thechnegol yn yr adran, gan roi cyngor uniongyrchol i weinidogion a swyddogion, a goruchwylio'r ffordd y mae ymchwil, tystiolaeth ac arbenigedd allanol yn cael eu defnyddio.

Bydd yn gweithio'n agos gyda Phrif Gynghorwyr Gwyddonol adrannau eraill ar draws Whitehall, dan arweiniad Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y DU, er mwyn sicrhau bod ymagwedd strategol gydlynus yn cael ei mabwysiadu at fynd i'r afael â pholisïau trawsbynciol allweddol y llywodraeth.

Er bod ei rôl newydd yn ymwneud â Lloegr yn bennaf, mae'n cyd-fynd yn naturiol â themâu blaenoriaeth yn y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yng Nghymru, ac mae'n atgyfnerthu cryfderau Prifysgol Abertawe yn y meysydd hyn. Mae hefyd yn tanategu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu economi fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd, yn ogystal â haenau allweddol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Gan drafod ei benodiad, meddai'r Athro Tom Crick:

“Mae'n bleser gen i ymuno ag Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon fel Prif Gynghorydd Gwyddonol.  

Mae gen i ddiddordeb penodol mewn cefnogi ymagweddau arloesol sy'n seiliedig ar leoedd, meithrin cymunedau creadigol, a chreu cyfleoedd amrywiol i bobl ifanc, yn ogystal â gwella'r ddealltwriaeth o effaith tymor hwy deallusrwydd artiffisial ar ddiwylliant, treftadaeth ac yn enwedig y diwydiannau creadigol.  

Mae'r gwaith hwn ar y ffiniau rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer yn cyd-fynd yn amlwg ag uchelgeisiau ehangach Prifysgol Abertawe yn y maes hwn, yn enwedig ar gyfer nodi heriau lleol a mynd i'r afael â nhw, ffyniant bro a ffyniant cyffredin, yn ogystal â chreu lleoedd diwylliannol sy'n gysylltiedig â strategaeth newydd ein cenhadaeth ddinesig.” 

Meddai Sam Lister, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth a Gweithrediadau'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: 

“Rwy'n llongyfarch Tom ar gael ei benodi'n Brif Gynghorydd Gwyddonol ar ôl proses gystadleuol iawn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef ar y cam nesaf wrth ddatblygu'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i fod yn sefydliad sy'n defnyddio trylwyredd gwyddonol yn ei holl waith.  

Mae ein sectorau wrth wraidd arloesi technolegol a chreadigol, a bydd Tom yn sicrhau bod ymchwil, tystiolaeth a gwybodaeth dechnegol o'r radd flaenaf ar gael i’n galluogi i wneud penderfyniadau gwell a chreu polisïau mwy effeithiol a chadarn i sbarduno twf a chyfoethogi bywydau.”

Rhannu'r stori