Mynd i'r afael â chynnwys terfysgol ar-lein: arbenigwyr o Abertawe'n ysgrifennu adroddiad newydd ar y cyd am botensial a pheryglon deallusrwydd artiffisial

Gall deallusrwydd artiffisial wneud cyfraniad hollbwysig at nodi cynnwys terfysgol ar-lein, ond mae mewnbwn gan bobl yn dal i fod yn hanfodol er mwyn diogelu hawliau dynol ac atal grwpiau cyfreithlon rhag cael eu targedu ar gam, yn ôl adroddiad newydd gan dîm sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe. 

Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd gan brosiect Tech Against Terrorism Europe, yn rhoi arweiniad ymarferol ar fynd i'r afael â chynnwys terfysgol ar-lein yn deg ac yn gyfrifol wrth barchu hawliau dynol.

Mae'r adroddiad yn tanlinellu bod adnoddau deallusrwydd artiffisial yn hanfodol wrth ganfod cynnwys terfysgol ymysg y swm cynyddol o ddeunydd a gyhoeddir ar-lein bob dydd. Bob munud, ar gyfartaledd, mae defnyddwyr Facebook yn rhannu 694,000 o straeon, mae defnyddwyr X (Twitter gynt) yn cyhoeddi 360,000 o bostiadau, mae defnyddwyr Snapchat yn anfon 2.7 miliwn o luniau a fideos ac mae defnyddwyr YouTube yn lanlwytho mwy na 500 awr o gynnwys newydd.

Hefyd, mae gan blatfformau gyfrifoldeb cyfreithiol bellach i dynnu cynnwys terfysgol yn gyflym, er mwyn cydymffurfio â Rheoliad Cynnwys Terfysgol Ar-lein 2021 yr Undeb Ewropeaidd.

O ystyried y cefndir hwn, nid yw'n syndod bod llawer o blatfformau yn ehangu'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a dulliau awtomataidd o ganfod cynnwys terfysgol. 

Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn amlygu bod anfanteision sy’n deillio o ddibynnu ar ddulliau awtomataidd yn unig.

Er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o adnoddau awtomataidd sy'n seiliedig ar gynnwys yn dibynnu ar baru delweddau a fideos â chronfa ddata neu ddefnyddio dysgu peirianyddol i ddosbarthu cynnwys. Gall hyn arwain at anawsterau wrth lunio setiau data addas y gellir eu defnyddio i hyfforddi algorithmau, yn ogystal ag algorithmau heb sensitifrwydd diwylliannol, gan gynnwys deall amrywiadau o ran tafodieithoedd ac ieithwedd ar draws grwpiau gwahanol o siaradwyr Saesneg.

Mae'r awduron hefyd yn rhybuddio bod perygl y bydd dibynnu ar ddulliau awtomataidd yn unig yn cael effaith anghymesur ar grwpiau ar yr ymylon ac ymgyrchwyr, y gellir eu labelu'n derfysgwyr, a hynny ar gam. 

Dyma pam mae'r adroddiad yn galw am oruchwyliaeth gan bobl a mecanweithiau atebolrwydd priodol, ochr yn ochr â defnyddio deallusrwydd artiffisial.

Darllenwch yr adroddiad

Meddai'r Athro Stuart Macdonald o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, prif awdur yr adroddiad:

“Mae adnoddau cymedroli cynnwys awtomataidd yn hanfodol, o ystyried swm y cynnwys sy'n cael ei gyhoeddi ar-lein. Ond ni ellir caniatáu i hyn guddio pwysigrwydd parhaus adolygu a goruchwylio gan bobl. Yn ogystal â sicrhau nifer digonol o adolygwyr dynol, mae hefyd yn hollbwysig bod gan adolygwyr yr arbenigedd angenrheidiol a bod cwmnïau'n gwneud darpariaethau addas i ddiogelu eu lles.”

Y canlynol yw argymhellion cyffredinol yr adroddiad:

  1. Deallusrwydd estynedig wrth gymedroli cynnwys: Datblygu safonau gofynnol a hyrwyddo adnoddau deallusrwydd artiffisial i gefnogi lles cymedrolwyr cynnwys.
  2. Dewis cynhyrchion awtomeiddio'n ddoeth: Dylai platfformau bach asesu atebion trydydd parti'n ofalus ac archwilio cydweithrediadau i ehangu gallu.
  3. Rhannu’r baich: Rhannu gwybodaeth a datblygu adnoddau cymedroli awtomataidd yn agored ar draws y diwydiant.

Meddai Dr Ashley Mattheis o Ysgol y Gyfraith a Llywodraeth Prifysgol Dinas Dulyn, un o gyd-awduron yr adroddiad: 

“Does dim digon o allu gan gwmnïau o bob maint i fynd i'r afael â chynnwys terfysgol ar-lein yn effeithiol. Felly, mae cydweithredu a rhannu adnoddau – cymheiriaid yn cefnogi ei gilydd a phlatfformau mawr yn cefnogi platfformau bach a chanolig – yn hanfodol wrth ddatblygu ffyrdd cadarn o gymedroli cynnwys, arfer gorau o ymateb i gynnwys terfysgol ac eithafol, a meithrin gallu ar draws y diwydiant.”

Mae prosiect Tech Against Terrorism Europe, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, yn gonsortiwm o sefydliadau sy'n gyfrifol am gynyddu ymwybyddiaeth o Reoliad Cynnwys Terfysgol Ar-lein yr Undeb Ewropeaidd a chydymffurfio ag ef.  

A hithau'n aelod o'r consortiwm, mae Canolfan Ymchwil Seiberfygythiadau (CYTREC) Prifysgol Abertawe'n cynnal ymchwil wreiddiol i nodi platfformau ar-lein sy'n cael eu camddefnyddio gan grwpiau terfysgol a'u cefnogwyr, ac yn datblygu argymhellion i helpu i hybu gwydnwch cwmnïau llai nad oes ganddynt y gallu ar hyn o bryd o bosib i ganfod cynnwys terfysgol ar eu platfformau a'i ddileu.

Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu gan yr Athro Stuart Macdonald o Brifysgol Abertawe, Dr Ashley Mattheis o Brifysgol Dinas Dulyn a David Wells o Brifysgol Abertawe.  

Darllenwch yr adroddiad

Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton – Prifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori