Campws y Bae
Professor Paul Lewis

Yr Athro Paul Lewis

Athro Emeritws (Ysgol Reolaeth), Management School

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r Athro Lewis yn dal Cadair ar y cyd rhwng yr Ysgol Reolaeth a'r Ysgol Feddygaeth. Ar ôl ennill ei radd gyntaf a'i PhD mewn Geneteg, penodwyd Paul yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd cyn iddo ymuno ag Ysgol Feddygaeth Abertawe yn 2004 a'r Ysgol Reolaeth yn 2015.

Paul yw Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd Iechyd ac Amgylcheddol (CHEMRI) yn yr Ysgol Reolaeth ac mae'n arwain y Grŵp Diagnosteg Resbiradol yn yr Ysgol Feddygaeth. Un o flaenoriaethau CHEMRI yw dadansoddi data amgylcheddol ar raddfa fawr a'r effeithiau ar iechyd a lles dinasyddion mewn ardaloedd amddifadedd uwch.

 Mae ymchwil allweddol yn cynnwys modelu data amgylcheddol ac iechyd er mwyn asesu effaith, defnyddio technegau dadansoddi ar raddfa fawr, gan gynnwys dysgu peirianyddol a thechnegau ystadegol amlamrywedd a gwerthuso technolegau cynaliadwy at ddiben monitro ansawdd aer.

Gan weithio'n agos gydag awdurdodau a diwydiant lleol, mae gan dîm Paul ddiddordeb arbennig mewn modelu ac asesu effaith gronynnau, gan gynnwys PM10 a PM2.5, mewn ardaloedd trefol a diwydiant, a chasglu tystiolaeth ar gyfer newid polisi.

Mae ei ymchwil resbiradol yn cynnwys datblygu sbectrosgopeg optegol a'i rhoi ar waith ar gyfer diagnosteg sy'n gallu prosesu ar gyfradd uchel am gost isel. Mae wedi arwain nifer o dreialon ac astudiaethau clinigol - a chyfrannu at eraill - sy'n cynnwys byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled y DU. Mae ei waith wedi arwain at ffeilio tri phatent a sefydlu nifer o gwmnïau deillio ym maes diagnosteg a monitro a dadansoddeg llygredd aer.

Mae gan Paul gydweithrediadau ymchwil â nifer o fyrddau iechyd ledled Cymru, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Fel prif ymchwilydd a chyd-ymchwilydd, mae wedi bod yn rhan o geisiadau sydd wedi sicrhau cyllid grant allanol gwerth dros £6 miliwn ar gyfer ymchwil.

Mae Paul yn aelod o Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru - Deddf Aer Glân i Gymru. Ers 2018, mae Paul wedi bod yn aelod arbenigol o banel adolygu annibynnol cyfarwyddyd ansawdd aer Llywodraeth Cymru ac yn aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llosgi Tanwydd Solet i Ddibenion Domestig Llywodraeth Cymru. Yn 2020 ymunodd â Phanel Cynghori Llywodraeth Cymru ar Aer Glân fel aelod arbenigol. 

Meysydd Arbenigedd

  • Effeithiau amgylcheddol ar iechyd
  • Monitro llygryddion
  • Monitro amgylcheddol
  • Dadansoddeg data mawr
  • Technolegau optegol
  • Rheoli clefydau anadlol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Dadansoddeg data 

Sgiliau dadansoddi hanfodol ar gyfer busnes

Biowybodeg 

Ymchwil Prif Wobrau