male

Yr Athro Syr Mansel Aylward

CB MD DSc FRCP FFOM FFPM FFPH FLSW

Athro Iechyd a Lles Darbodus

Yr Ysgol Reolaeth

Prifysgol Abertawe

Campws y Bae

 

Am

Ar hyd ei yrfa mae Syr Mansel wedi gweithio ar lefelau uwch iechyd cyhoeddus, adrannau ac asiantaethau Llywodraeth Cymru a'r DU, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (mewn practis cyffredinol ac fel ymgynghorydd rhewmatoleg ac iechyd poblogaethau). Bu’n gwasanaethu fel Prif Swyddog Meddygol, Cyfarwyddwr Meddygol a Phrif Wyddonydd yn yr AIGC/Yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Whitehall am 10 mlynedd ac fel Prif Swyddog Meddygol/Cyfarwyddwr Meddygol yn Asiantaeth y Cyn-filwyr. Dychwelodd adref i Gymru fel Athro Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd a chadeirydd cyntaf Canolfan Iechyd Cymru yn 2005. Fe'i penodwyd yn Athro Iechyd a Lles Darbodus yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe yn 2015. Yn gynharach yn ei yrfa sefydlodd Simbec Research a enillodd wobr Cwmni'r Flwyddyn. Gwnaed ef yn Gydymaith Urdd y Baddon yn 2002 ac fe'i hurddwyd yn farchog yn 2010 am wasanaethau i iechyd a gofal iechyd.

Meysydd Arbenigedd

  • Meddygaeth ac Ymchwil Rhewmatoleg a Cyhyrysgerbydol
  • Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus
  • Iechyd Galwedigaethol ac Adsefydlu
  • Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd
  • Meddygaeth Anadlol
  • Gofal Iechyd Darbodus
  • Ffarmacoleg a Therapiwteg
  • Effeithiau Cymdeithasol Poen Cronig

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Cyflwyniad Israddedig i Feddygaeth (israddedig)

Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd a Salwch (israddedig ac ôl-raddedig)

Trosglwyddiad Cymdeithasol Hapusrwydd a Lles (israddedig, ôl-raddedig a chyhoeddus)

Gofal Iechyd Darbodus a Meddygaeth Seiliedig ar Werth (israddedig ac ôl-raddedig)

Iechyd Galwedigaethol a Meddygaeth (israddedig ac ôl-raddedig)

Cyflawni Gweithle Iach (israddedig ac ôl-raddedig)

Effaith Gymdeithasol Poen Cronig (israddedig ac ôl-raddedig)

Ymchwil Uchafbwyntiau'r Gwobrau Cydweithio