-
20 Chwefror 2026Prifysgol Abertawe i gyflwyno rhaglen ymchwil AI o fri a gefnogir gan Google DeepMind
Dewiswyd Prifysgol Abertawe i gynnal Rhaglen Research Ready Google DeepMind - profiad a ariennir yn llawn dros wyth wythnos i ehangu cyfranogiad mewn ymchwil deallusrwydd artiffisial.
-
16 Chwefror 2026Prifysgol Abertawe'n sicrhau cyllid i roi hwb i ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion
Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i wella addysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
-
13 Chwefror 2026Ymchwilwyr Abertawe'n helpu i gynnal cryfder seiberddiogelwch ar draws cadwyn gyflenwi lled-ddargludyddion
Mae arbenigwyr o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe'n chwarae rôl allweddol mewn menter ryngwladol sy'n mynd i'r afael â risgiau seiberddiogelwch cynyddol ar draws y gadwyn gyflenwi lled-ddargludyddion - sector sy'n sylfaen i bopeth o systemau diogelwch cenedlaethol ac isadeiledd critigol i gerbydau cysylltiedig.
-
9 Chwefror 2026Llysgennad yr Almaen yn amlygu pŵer dysgu ieithoedd yn ystod dathliad deuddydd ym Mhrifysgol Abertawe
Amlygwyd pwysigrwydd dysgu ieithoedd yn ystod dathliad deuddydd ym Mhrifysgol Abertawe'n ddiweddar.
-
9 Chwefror 2026Mae sgiliau rhwydweithio myfyriwr wedi sicrhau ymweliad gan Lywodraethwr Banc Lloegr
Arweiniodd meddwl cyflym a sgiliau rhwydweithio myfyriwr o Brifysgol Abertawe mewn digwyddiad busnes lleol yn y ddinas at sicrhau ymweliad gan Lywodraethwr Banc Lloegr.
-
9 Chwefror 2026Prifysgol yn sicrhau bod Busnesau Bach a Chanolig Malaysiaidd yn trawsnewid yn ddidrafferth i farchnadoedd y DU
Cafodd busnesau bach a chanolig (BBaChau) Malaysiaidd help llaw wrth lansio eu cynhyrchion yn y DU, diolch i arbenigedd Prifysgol Abertawe.
-
6 Chwefror 2026Bydd Cymrodoriaeth Dyfodol Gwyrdd yn helpu'r Brifysgol i hyrwyddo technoleg solar gynaliadwy
Mae safle Prifysgol Abertawe fel arweinydd byd-eang mewn gweithgynhyrchu solar cynaliadwy ar fin mynd o nerth i nerth yn dilyn gwobr ymchwil fawreddog gwerth £3 miliwn.
-
5 Chwefror 2026A allai hyd bysedd fod yn gliw hanfodol i ddeall esblygiad ymennydd dynol?
Mae esblygiad y rhywogaeth ddynol wedi'i nodi gan gynnydd ym maint yr ymennydd. Nawr mae ymchwil newydd yn awgrymu y gallai hynny fod yn rhannol ddibynnol ar gynnydd mewn estrogen cynenedigol - a ddatgelir trwy edrych ar hyd bysedd person.
-
4 Chwefror 2026Arloeswr efelychu Abertawe ar restr fer Gwobrau Dewi Sant
Mae pennaeth arloesol efelychu a dysgu ymdrochol Prifysgol Abertawe ar restr fer Gwobrau Dewi Sant, sef gwobrau cenedlaethol Cymru.
-
3 Chwefror 2026Cyflwyno cynllun cwpanau ailddefnyddiadwy ym Mhrifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd cam cadarnhaol tuag at leihau pecynnu untro drwy lansio cynllun 2GoCup mewn sawl siop arlwyo ar y campws.
-
27 Ionawr 2026Cydweithrediad rhwng Abertawe ac INEOS Grenadiers i helpu i drawsnewid adnabod dawn beicio elît
Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio gydag INEOS Grenadiers i ddatblygu atebion data ac AI sy'n torri tir newydd a allai chwyldroi sut caiff darpar ddawn ei hadnabod ym maes beicio proffesiynol.
-
22 Ionawr 2026Cafodd yr asteroid a laddodd y deinosoriaid effaith gyfyngedig ar siarcod yn ôl astudiaeth newydd
Yn ôl astudiaeth newydd o bwys, gwnaeth y trawiad gan asteroid a arweiniodd at ddifodiant y deinosoriaid achosi gostyngiad bach yn unig mewn rhywogaethau siarcod a chathod môr, gan herio rhagdybiaethau hirsefydlog am hyd a lled ei effaith ar fywyd morol.
-
22 Ionawr 2026Cyhoeddi rhestr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2026
Mae'r rhestr hir ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi heddiw, gan gynnwys awduron o bob cwr o'r byd gan gynnwys y DU, UDA, Iwerddon, Pacistan, a Nigeria.
-
19 Ionawr 2026Gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n cael cyllid ar gyfer ymchwil arloesol i ddementia
Mae arbenigwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cymorth ychwanegol ar gyfer astudiaeth arloesol ar heneiddio'r ymennydd a genynnau a allai wella dulliau datblygu cyffuriau.
-
19 Ionawr 2026A allai newid dietegol gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc? Adolygiad newydd yn tynnu sylw at fylchau mewn tystiolaeth a blaenoriaethau ymchwil yn y dyfodol
Mae astudiaeth dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn awgrymu y gallai patrymau dietegol effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc ac yn amlinellu ymchwil fanwl i ddeall y berthynas hon yn well.
-
18 Ionawr 2026Argymhellion ymchwil ar gyfer athrawon newydd i gefnogi hawliau cyfranogiad plant yn yr ystafell ddosbarth
Mae tîm ymchwil cydweithredol sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe newydd gyhoeddi canllawiau newydd sydd â'r nod o gefnogi athrawon newydd i ymgorffori hawliau cyfranogiad plant mewn ysgolion.
-
16 Ionawr 2026Ymchwilwyr yn gweithio gyda chymunedau i ddathlu Bod yn Ddynol
O ddathlu hawliau anabledd i rannu profiadau pobl ifanc o gael eu magu mewn cymuned ddur - mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl allweddol yn llwyddiant Gŵyl Bod yn Ddynol unwaith eto.
-
15 Ionawr 2026Prifysgol Abertawe yn rhan o gonsortiwm Cyfnewid Tystiolaeth cenedlaethol
Mae Prifysgol Abertawe yn sylfaenydd mewn consortiwm mawr o brifysgolion i gynnig cyfleoedd polisi i ymchwil i weision sifil a chyhoeddus.
-
15 Ionawr 2026Dengys y dadansoddiad mwyaf o ymyriadau lles sawl llwybr at iechyd meddwl gwell
Wrth i flwyddyn newydd ddechrau, bydd llawer ohonom yn chwilio am ffordd o roi hwb i'n hwyliau ond p’un sy’n well i’n hiechyd meddwl - mynd i'r gampfa neu fyfyrio ym myd natur? Bellach mae ymchwil newydd gan arbenigwyr o Abertawe wedi cymharu ymyriadau lles i oedolion ar y raddfa fwyaf erioed.
-
15 Ionawr 2026Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi ei phanel beirniadu ar gyfer 2026
Caiff y panel beirniadu ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni, y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc, ei gyhoeddi heddiw, cyn cyhoeddi'r rhestr hir ddydd Iau 22 Ionawr.
-
14 Ionawr 2026Prosiect newydd gan y Brifysgol i hyrwyddo arloesi ym maes celloedd solar perofsgit
Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe yn cydweithredu â Power Roll Ltd, cwmni technoleg blaenllaw sy’n torri tir newydd yn y farchnad ar gyfer celloedd perofsgit hyblyg, ar brosiect i werthuso technegau newydd i nodweddu celloedd solar perofsgit (PSCs).
-
14 Ionawr 2026Graddedigion Prifysgol Abertawe'n rhannu straeon llwyddiant mewn cyfres o bodlediadau newydd
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio cyfres o bodlediadau newydd sy'n dathlu straeon llwyddiant ei graddedigion a'r teithiau llawn ysbrydoliaeth a ddechreuodd yn Abertawe.
-
13 Ionawr 2026Abertawe'n arwain Canolfan Hyfforddiant Doethurol newydd y DU mewn sgiliau lled-ddargludyddion
Bydd Prifysgol Abertawe'n arwain menter genedlaethol o bwys i fynd i'r afael â'r bwlch yn sgiliau lled-ddargludyddion y DU drwy lansio Canolfan Hyfforddiant Doethurol newydd mewn sgiliau lled-ddargludyddion.
-
12 Ionawr 2026Prosiect treftadaeth ym Mhrifysgol Abertawe'n datgelu tystiolaeth o ddarganfyddiad archeolegol mawr
Mae arbenigwyr wedi darganfod darlun unigryw o hanes - fila Rufeinig - a fydd, meddan nhw, yn cynnig gwybodaeth ddigynsail am stori genedlaethol Cymru.