Dyn yn sefyll wrth lwyfan yn cyfeirio at gynulleidfa

Cafodd myfyrwyr Safon Uwch Saesneg fewnwelediad unigryw i waith dau o feirdd mwyaf blaenllaw y DU mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Abertawe.

Bu mwy na 180 o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws de Cymru yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda'r cyn Fardd Llawryfog, Carol Ann Duffy, cyn mwynhau darlleniadau gan y bardd a'r academydd adnabyddus Owen Sheers.

Poetry Live! Safon Uwch - un o gyfres flynyddol o ddigwyddiadau a gynhelir ar draws y DU - sydd â'r nod o ysbrydoli a pharatoi myfyrwyr Safon Uwch Llenyddiaeth Saesneg cyn eu harholiadau. Cafodd y bobl ifanc arweiniad a chyngor gan y beirdd ond hefyd gan y prif arholwr, Tony Childs, a rannodd sgiliau hollbwysig i lwyddo mewn arholiad.

Mae Owen Sheers, y mae ei waith yn cael ei gynnwys ar feysydd llafur Safon Uwch a TGAU yn Athro Creadigrwydd yn Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu'r Brifysgol. Meddai: "Dwi wedi bod yn rhan o Poetry Live! am flynyddoedd lawer ac mae wedi bod yn bleser dod â phrofiad mor werthfawr o farddoniaeth ac addysg i Abertawe, yn enwedig fel sylfaenydd Poetry Live! Mae Simon Powell yn gyn-fyfyriwr o’r Brifysgol."

Roedd y digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin yn cynnwys sgwrs arbennig ar Shakespeare gan Dr Sally Barnden o Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol y Brifysgol ac roedd modd i gyfranogwyr fwynhau sesiynau gweithdy gyda rhai o athrawon dan hyfforddiant TAR Saesneg y Brifysgol.

Ymysg y rhai hynny yn y gynulleidfa roedd Emily Hounsell a astudiodd gwrs TAR Saesneg yn Abertawe sydd bellach yn athrawes yn Ysgol Dyffryn Aman. Meddai: "Roedd yn fuddiol iawn. Roedd dod â disgyblion yn ôl i'm prifysgol fy hun a rhoi cyfle iddynt ddysgu'n uniongyrchol gan feirdd yn bwerus iawn - mae'n gwneud i lenyddiaeth fyw ac mae'n eu helpu i ddychmygu eu dyfodol eu hunain mewn lleoedd fel hyn.

"Mae clywed gan feirdd yn dod â llenyddiaeth yn fyw ac yn ysbrydoli myfyrwyr i weld beth gallan nhw ei gyflawni."

Darganfod mwy am astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Abertawe

 

Rhannu'r stori