Yr Athro Owen Sheers

Athro mewn Creadigrwydd, English Literature

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae’r Athro Owen Sheers yn fardd, awdur a dramodydd arobryn sydd â diddordeb arbennig mewn creu gweithiau hybrid arloesol gan ddefnyddio dull hynod ryngddisgyblaethol a chydweithredol. Mae’n awdur dwy flodeugerdd o farddoniaeth, dwy nofel, tair drama fydr a nifer o weithiau ar gyfer teledu, ffilm a theatr. Cafodd ei ffilm

farddonol, The Green Hollow (2016), am drychineb Aberfan ei

henwebu am wobrau BAFTA a Grierson, ac enillodd dair gwobr BAFTA Cymru, gan gynnwys yr Awdur Gorau. Mae wedi cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith, ac enillodd Wobr Dewi Sant am

ddiwylliant yn 2016 a gwobr barddoniaeth Wilfred Owen yn 2018. Mae’r prosiectau ysgrifennu sydd ganddo ar y gweill yn cynnwys drama i’r BBC am helynt Climategate yn 2010, opera amgylcheddol gydag Opera Cenedlaethol Cymru, llyfr plant sy’n ymdrin â cholled a galar a nofel newydd.

Fel Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe, cenhadaeth Owen yw annog cydweithio creadigol rhyngddisgyblaethol ar draws

colegau a chyfadrannau, gyda phwyslais arbennig ar brosiectau sy’n mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol presennol.

https://www.swansea.ac.uk/cy/sefydliad-diwylliannol/creadigrwydd/

Yn 2019 lansiodd yr Athro Sheers Gymrodoriaethau Creadigrwydd Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe, lle mae dau artist ounrhyw ddisgyblaeth yn cael eu gwahodd a’u hariannu i gydweithio ag academyddion Prifysgol Abertawe i greu gweithiau celf newydd yn sgil ymchwil prifysgol arloesol.

https://www.swansea.ac.uk/cy/sefydliad-diwylliannol/creadigrwydd/cymrodoriaethau-creadigrwydd/

Meysydd Arbenigedd

  • Ysgrifennu creadigol (barddoniaeth, ffuglen, drama)
  • Prosiectau theatraidd hybrid
  • Prosiectau rhyngddisgyblaethol
  • Rhaglenni dogfen celfyddydol ar deledu a radio

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ysgrifennu creadigol (barddoniaeth, ffuglen, drama)

Prif Wobrau