Creu prosiectau artistig a sbardunir gan ymchwil Prifysgol Abertawe
Bywiogi'r deialog rhwng y celfyddydau,y gwyddorau ac ymchwil - mae prosiectau, perfformiadau ac arddangosfeydd celf yn ffordd wych o ddatgloi iaith arbenigol a rhannu straeon ymchwil â chynulleidfa ehangach.' - Yr Athro Owen Sheers
Mae'r Athro Creadigrwydd, Owen Sheers, yn gyfrifol am ysbrydoli a churadu partneriaethau rhwng ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe ac artistiaid a sefydliadau'r celfyddydau, gan ganiatáu i ymchwil gael ei fynegi drwy brosiectau creadigol.
- Defnyddio prosiectau celfyddydol a diwylliannol i arddangos y gorau o ymchwil Abertawe; cyflwyno artistiaid i ymchwilwyr ar draws y ddau gampws gyda'r nod o greu gwaith celf, perfformiadau ac arddangosfeydd arloesol wedi'u hysbrydoli gan ymchwil.
- Annog sgwrs gydweithredol barhaus rhwng Campws y Bae ar Ffordd Fabian a Champws Parc Singleton ar ochr arall y ddinas.
- Creu, datblygu a meithrin prosiectau celfyddydol sy'n arddangos ac yn datgelu ymchwil Prifysgol Abertawe, ac yn codi'r straeon y tu hwnt i'r ymchwil hwn oddi ar y dudalen a'u rhannu â chynulleidfa ehangach.
- Cynnwys cymuned Abertawe a'r gymuned ehangach mewn prosiectau creadigol ar sail ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, gan weithio gyda chymunedau a sefydliadau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
- Ymgysylltu â’n myfyrwyr mewn ffyrdd creadigol, eu hannog i gymryd rhan mewn prosiectau arloesol a fydd yn cynnig profiad ymarferol a gwerthfawr iddynt; yn gwella eu cyflogadwyedd a'u sgiliau trosglwyddadwy; ac yn cyfrannu at eu Prifysgol a'r Gymuned.