Mae adroddiad newydd yn darparu'r dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o sut mae sgwrsfotiaid yn ail-lunio trais yn erbyn menywod a merched mewn ffyrdd peryglus newydd.
Mae'r Adroddiad yn atgyfnerthu galwadau ar y Llywodraeth i weithredu ar sgwrsfotiaid yn y Bil Plismona a Throseddu.
Mae'r adroddiad, Invisible No More: How AI Chatbots are Reshaping Violence Against Women and Girls, yn canfod bod sgwrsfotiaid AI yn creu mathau newydd o drais yn erbyn menywod a merched, ac - am y tro cyntaf - mae'n dangos sut mae platfformau'n galluogi ac yn hyrwyddo trais ar sail rhywedd drwy ddewisiadau dylunio bwriadol a methiannau mewn mecanweithiau diogelwch.
Mae'r adroddiad yn nodi bylchau sylweddol o ran rheoli a llywodraethu platfformau, gan gynnig argymhellion ar gyfer diwygio'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, cyfraith trosedd, deddfwriaeth diogelwch cynnyrch, yn ogystal â Deddf Deallusrwydd Artiffisial newydd.
Mae'r adroddiad yn canfod y canlynol:
- Mae sgwrsfotiaid AI yn caniatáu chwarae rôl mewn perthynas â llosgach, cam-drin plant yn rhywiol a thrais rhywiol gydag ychydig iawn o fesurau diogelwch, gan beri'r risg o normaleiddio a chyfreithloni'r gamdriniaeth hon;
- Mae sgwrsfotiaid AI yn creu mathau newydd o drais a chamdriniaeth, megis camdriniaeth a sbardunir gan sgwrsfotiaid ac efelychiadau, ac mae angen gweithredu ar hyn ar frys;
- Mae sgwrsfotiaid AI yn dwysáu camdriniaeth megis stelcio, gan roi arweiniad manwl a phersonol, sy'n debygol o ddwysáu troseddu;
- Mae dewisiadau dyluniad platfformau AI, polisïau a methiannau o ran llywodraethu'n hyrwyddo ac yn galluogi trais yn erbyn menywod a merched, gan gyflwyno niweidiau nad ydynt o ganlyniad i gamddefnydd y defnyddiwr yn unig;
- Mae rheoliadau presennol yn hollol annigonol i atal a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched a hyrwyddir gan sgwrsfotiaid; and,
- Mae'r diffyg ymchwil i rôl sgwrsfotiaid AI mewn trais yn erbyn menywod a merched yn arswydus, gan godi pryderon sylweddol am y sylfaen dystiolaeth ar gyfer rheoleiddio AI yn y dyfodol
Mae'r adroddiad hwn yn amlygu'r niweidiau a'r bygythiadau difrifol iawn o ran rhyddid a diogelwch menywod a merched.
Dywedodd yr Athro Clare McGlynn, arbenigwr blaenllaw ar drais yn erbyn menywod a merched: “Mae ein hadroddiad yn rhybuddio bod trais yn erbyn menywod a merched a hyrwyddir gan sgwrsfotiaid yn cynrychioli bygythiad sy'n mynd yn fwyfwy difrifol yn gyflym.
“Heb ymyrraeth gynnar, mae perygl y caiff y niweidiau hyn eu gwreiddio ac y byddant yn dod yn fwy difrifol yn gyflym, gan adlewyrchu datblygiad mathau eraill o gamdriniaeth a hwylusir gan dechnoleg megis apiau ffugiad dwfn a noethni, lle cafodd rhybuddion cynnar eu hanwybyddu'n helaeth. Ni allwn wneud yr un camgymeriadau eto."
Dywedodd Prif Ymchwilydd y Prosiect, yr Athro Yvonne McDermott Rees: “Yn hollbwysig, mae cymhwyso rheoliadau cyfreithiol presennol yn dameidiog o ran trais yn erbyn menywod a merched sy'n gysylltiedig â sgwrsfotiaid.
"Mae ein hadroddiad yn argymell mabwysiadu Deddf Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial newydd, creu rheoleiddiwr diogelwch ar-lein a sefydlu hawl i weithredu ar niweidiau deallusrwydd artiffisial er mwyn sicrhau y gall dioddefwyr gael y cyfiawnder y maent yn ei haeddu."
Ychwanegodd yr Athro Stuart Macdonald, sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau Prifysgol Abertawe (CYTREC): “Nid yw cyfreithiau troseddol presennol yn mynd i'r afael â'r amrywiaeth lawn o niweidiau gan sgwrsfotiaid sy’n gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod a merched. Rydym felly'n argymell bod defnyddio sgwrsfotiaid AI mewn modd peryglus yn drosedd."
Ariannwyd yr ymchwil gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) a chafodd ei hysgrifennu ar y cyd gan yr Athro Clare McGlynn (Prifysgol Durham), yr Athro Yvonne McDermott Rees (Prifysgol Abertawe) (Prif Ymchwilydd), Yr Athro Stuart Macdonald (Prifysgol Abertawe), Rüya Tuna Toparlak (Prifysgol Lucerne), Fabienne Tarrant (ymgynghorydd annibynnol), a Dr Samantha Treacy (Prifysgol Abertawe).