Llun: Power Roll Ltd
Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe yn cydweithredu â Power Roll Ltd, cwmni technoleg blaenllaw sy’n torri tir newydd yn y farchnad ar gyfer celloedd perofsgit hyblyg, ar brosiect i werthuso technegau newydd i nodweddu celloedd solar perofsgit (PSCs).
Mae'r fenter, AI-Enhanced Perovskite Manufacturing using Inline Metrology, Performance Assessment and Characterisation Techniques (AI-IMPACT), wedi ennill cyllid gan Innovate UK yn dilyn yr alwad ddiweddar am Ddatblygu Caledwedd Led-ddargludol ar gyfer Technolegau Allweddol
Nod AI-IMPACT yw mynd i'r afael â bylchau mawr mewn galluoedd i gynnal profion ar y cam datblygu ac ar ddiwedd y broses weithgynhyrchu, ar raddfa ac ar gyfradd brosesu uchel, ar gyfer celloedd solar perofsgit. Heb y datblygiadau hyn, gallai cwmnïau PSC wynebu rhwystrau sylweddol wrth achredu eu cynhyrchion.
Bydd y prosiect yn darparu offer profi ar y cam datblygu ac offer nodweddu sydd wedi'u dylunio'n benodol ar gyfer dyfeisiau perofsgit mewn amgylcheddau gweithgynhyrchu. Bydd hefyd yn datblygu canllawiau sefydlogrwydd cadarn i gefnogi safonau'r diwydiant.
Mae Power Roll Ltd yn datblygu ffilm solar perofsgit newydd sy'n ysgafn ac yn hyblyg a chanddi strwythur saernïaeth wedi'i phatentu â phatrwm rhigolau a'r cysylltau ar y cefn. Yn ogystal â bod yn arloesol o ran ei saernïaeth, mae proses weithgynhyrchu ffilm solar Power Roll yn torri tir newydd hefyd gan ei bod yn rholyn i rolyn yn llwyr. Drwy gydol y prosiect, bydd y cwmni'n darparu samplau o ffilm solar i gynorthwyo wrth werthuso dulliau nodweddu newydd.
Mae Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe wedi bod yn mabwysiadu technolegau sy'n lleihau allyriadau carbon, gan greu adeiladau sy'n gallu cynhyrchu, storio a rhyddhau eu gwres a'u trydan eu hunain o ynni solar.
Mae grŵp PV y Brifysgol yn arloeswr byd-eang ym maes gweithgynhyrchu celloedd solar perofsgit drwy broses rholyn i rolyn ac mae wedi datblygu'r ddyfais perofsgit gyntaf yn y byd y gellir ei hargraffu'n llwyr drwy broses rholyn i rolyn. Yn AI Impact, bydd y tîm yn cynnal cyfres o adolygiadau o safonau perfformiad, technolegau mesureg, cyflenwyr cyfarpar, llwybrau i nodweddu dyfeisiau ar raddfa fawr ac AI mewn perthynas â monitro yn ystod y broses weithgynhyrchu.
Meddai'r Athro Trystan Watson o’r Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol: "Mae rheoli ansawdd a mesureg wrth weithgynhyrchu dyfeisiau perfosgit drwy broses rholyn i rolyn yn fwyfwy hanfodol i gyflymu'r broses fasnacheiddio a'n galluogi i gyflwyno'r dechnoleg drawsnewidiol hon i'r farchnad."
Meddai rheolwr technegol Power Roll Ltd, Dave Barwick: "Bydd y prosiect hwn yn darparu cefnogaeth hollbwysig i Power Roll wrth i ni weithio i gyflawni ein targedau uchelgeisiol o ran datblygu technegol, dilysu ac achredu cynnyrch masnachol a chwblhau cynlluniau ar gyfer y safle gweithgynhyrchu cyntaf ar raddfa gigawat yn y DU - cyflawniad a fydd yn rhoi'r wlad ar flaen y gad yn y genhedlaeth nesaf o dechnoleg solar.
Bydd y Labordy Ffiseg Cenedlaethol, prif gyfleuster y DU ar gyfer nodweddu dyfeisiau ffotofoltäig yn annibynnol, yn cefnogi datblygiad prototeipiau o offer nodweddu ar ddiwedd y broses weithgynhyrchu, gan fanteisio ar arbenigedd yn safonau'r diwydiant ac mewn technegau nodweddu dyfeisiau optoelectronig.
Darllenwch ragor am yr Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol