Professor Trystan Watson

Yr Athro Trystan Watson

Athro, Materials Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Swyddfa Academaidd - A230
Ail lawr
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Maes ymchwil yr Athro Watson yw ffilm denau PV wedi'i argraffu gydag arbenigedd mewn datblygu technolegau newydd ar gyfer cynhyrchu ffotofoltäegau newydd gan gynnwys prosesau dyddodi a chaledu a'u nodweddiadu gan ddefnyddio dulliau electrocemeg, ffotogemeg neu optoelectronig.

Ar hyn o bryd mae dadeni mewn ffotofoltäeg wedi'i argraffu mewn ffilm denau ac fel arfer mae'r datblygiadau hyn yn bodoli yn amgylchedd y labordy yn awr. Nod ymchwil yr Athro Watson yw cymryd y setiau materol hyn a datblygu'r llinell weithgynhyrchu ar gyfer gwneuthur ar raddfa. Mae dull gweithredu tair elfen yn cael ei ddefnyddio i gyflawni'r diben hwn (i) penderfynu ar fecanweithiau colli sy'n gysylltiedig â graddfa – gostyngiad mewn perfformiad wrth gynyddu o raddfa lab i raddfa beilot. (ii) Mynd i'r afael â thagfeydd proses i leihau amser gwneuthur (iii) Cyfieithu pensaernïol - sicrhau'r ystod ehangaf o is-haenau drwy adeiladu dyfeisiau ar ddalenni gwydr wedi'i prosesu a metel neu blastig rôl i rôl.

Yn benodol, mae ei weithgarwch ymchwil yn golygu haenu a chaledu deunyddiau ffotoactif, gweithgynhyrchu dyfeisiau PV ar raddfa lab ac is-fodiwl yn ogystal â nodweddiadu deunyddiau ffotoactif drwy ddulliau electrocemegol ac optoelectronig. Mae'r ymchwil yn ymestyn ar draws nifer o wahanol dechnolegau: celloedd solar wedi’u sensiteiddio â llifydd sy'n seiliedig ar hylif, celloedd solar cyflwr solet wedi’u sensiteiddio â llifydd, perofsgitau halid organoblwm ac yn fwy diweddar cesterid CZTS (Cu2ZnSnS4).

Meysydd Arbenigedd

  • Ffotofoltäegau Ffilm Tenau
  • Dyddodi a Chaledu
  • Graddio
  • Nodweddiadu Electrocemegol
  • Cyrydu
  • Celloedd Solar wedi’u Sensiteiddio â Llifydd
  • Perofsgitau Halid Organoblwm
  • Cesterid CZTS