Chwech o bobl yn sefyll ar laswellt o flaen adeilad yn dal cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio

Capsiwn: Llun (o'r chwith): Cyfarwyddwr Cysylltiol Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Abertawe Ben Lucas; Jacob Perry ac Andrew Douglas, Ardal Gwella Busnes Abertawe; Jane Scattergood, Chartwells; Y Cynghorydd Andrea Williams a Jane Richmond, Cyngor Abertawe.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd cam cadarnhaol tuag at leihau pecynnu untro drwy lansio cynllun 2GoCup mewn sawl siop arlwyo ar y campws.

Mae'r fenter cwpanau ailddefnyddiadwy'n ei gwneud hi'n haws i aelodau staff a myfyrwyr ddewis opsiwn mwy cynaliadwy wrth brynu diodydd poeth, gan helpu i leihau gwastraff cwpanau tafladwy a chefnogi uchelgeisiau amgylcheddol ehangach y Brifysgol ar yr un pryd.

Mae cynllun 2GoCup, a gyflwynir gan Ardal Gwella Busnes Abertawe mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, yn caniatáu i gwsmeriaid dalu blaendal bach am gwpan gwydn ailddefnyddiadwy y gellir ei ddychwelyd i unrhyw siop sy'n rhan o'r cynllun am ad-daliad neu ei gyfnewid am gwpan newydd.

Mae'r cynllun eisoes wedi derbyn adborth gwych ar y campws, ac mae Prifysgol Abertawe'n gobeithio y bydd yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth ymgorffori cynaliadwyedd yn arferion beunyddiol aelodau staff a myfyrwyr.

Meddai Ben Lucas, cyfarwyddwr cyswllt gwasanaethau masnachol ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym yn falch iawn o gyflwyno'r cynllun 2GoCup ar draws rhannau o'n campws ac o weld ymateb mor gadarnhaol gan aelodau staff a myfyrwyr. 

"Gall gweithredoedd bach pob dydd wneud gwahaniaeth mawr ac mae'r fenter hon yn cefnogi ein huchelgais i ymgorffori cynaliadwyedd mewn arferion dyddiol wrth leihau gwastraff. 

"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobl i ddewis opsiynau ailddefnyddiadwy a chwarae eu rhan wrth greu dyfodol gwyrddach."

Meddai'r Cyng. Andrea Williams, Dirprwy Arweinydd ar y cyd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau: "Mae cynllun 2GoCup yn ffordd gyffrous ac ymarferol o'n helpu wrth i ni ddod yn ddinas sero net erbyn 2050. Mae pob newid bach yn gwneud gwahaniaeth, felly drwy leihau gwastraff untro, rydym yn diogelu ein hamgylchedd, yn cadw ein cymunedau'n lanach ac yn cefnogi busnesau lleol.

"Rydym yn falch o helpu i ariannu'r fenter hon ac yn croesawu cyfranogiad Prifysgol Abertawe i helpu i sbarduno newid ymddygiad cadarnhaol."

Meddai Andrew Douglas, Rheolwr Ardal Gwella Busnes Abertawe: "Mae Abertawe'n ddinas sy'n edrych i'r dyfodol, ac mae'n wych gweld bod busnesau canol y ddinas a Phrifysgol Abertawe'n arwain y ffordd o ran cynaliadwyedd.” 

Mae'r lansiad ym Mhrifysgol Abertawe'n adeiladu ar lwyddiant cynyddol 2GoCup yng nghanol dinas Abertawe, lle mae llawer o fusnesau eisoes wedi cofrestru.

Mae busnes 2GoCup o Iwerddon wedi bod yn ehangu ar draws y DU ac Iwerddon ers iddo lansio yn 2018. Mae ei gwpanau gwydn, heb BPA wedi'u dylunio er mwyn eu defnyddio sawl tro a gellir eu hailgylchu hyd at ddiwedd eu hoes.

Dysgwch fwy am Cynaliadwyedd

 

Rhannu'r stori