Rhestr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2026

Mae'r rhestr hir ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi heddiw, gan gynnwys awduron o bob cwr o'r byd gan gynnwys y DU, UDA, Iwerddon, Pacistan, a Nigeria.

Mae'r wobr ryngwladol hon, sy'n werth £20,000, yn cydnabod dawn lenyddol eithriadol gan awduron 39 oed neu'n iau ac yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu. Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae'n dwyn ei enw er mwyn cefnogi llenorion presennol, meithrin doniau’r dyfodol a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.

Gyda chyfartaledd oedran o 32, ac yn cynnwys saith nofel, tri chasgliad o farddoniaeth, a dau gasgliad o straeon byrion, y rhestr hir yw:

  • Harriet Armstrong, To Rest Our Minds and Bodies (Les Fugitives) – nofel
  • Isabelle Baafi, Chaotic Good (Faber) – barddoniaeth
  • Colwill Brown, We Pretty Pieces of Flesh (Chatto & Windus, Vintage) – nofel
  • Sasha Debevec-McKenney, Joy Is My Middle Name (Fitzcarraldo Editions) – barddoniaeth
  • Suzannah V. Evans, Under the Blue (Bloomsbury Poetry) – barddoniaeth
  • Seán Hewitt, Open, Heaven (Jonathan Cape, Vintage) – nofel
  • Kanza Javed, What Remains After a Fire (W.W. Norton & Company) – straeon byrion
  • Esther Ifesinachi Okonkwo, The Tiny Things Are Heavier (Manilla Press, Bonnier Books) – nofel
  • Derek Owusu, Borderline Fiction (Canongate) – nofel
  • Issa Quincy, Absence (Granta) – nofel
  • Saba Sams, Gunk (Bloomsbury Circus) – nofel
  • Vanessa Santos, Make a Home of Me (Dead Ink Books) – straeon byrion

Mae saith o’r deuddeg enwebai yn cael eu cydnabod am eu gwaith cyntaf, gan wneud hon yn un o’r rhestrau hir mwyaf ffres ers blynyddoedd, gan ddathlu lleisiau newydd ar banorama llenyddol Saesneg.

Mae tri o’r awduron ar y rhestr hir wedi cael eu henwebu o’r blaen ar gyfer y wobr fawreddog, sy’n dangos cynhyrchiad cyson yr awduron o waith llenyddol eithriadol. Mae’r awdur Prydeinig-Gwyddelig arobryn Seán Hewitt, a enwebwyd yn 2025 am ei gasgliad barddoniaeth Rapture’s Road, ar y rhestr hir eleni am ei nofel gyntaf Open, Heaven, sy’n dilyn bywyd dau fachgen un ar bymtheg oed yn trawsnewid bywydau ei gilydd mewn pentref anghysbell yng ngogledd Lloegr. Cafodd casgliad straeon byrion clodwiw Saba Sams, ei roi ar y rhestr fer yn 2023. Mae Saba Sams yn y ras eleni gyda'i nofel Gunk, ei nofel gyntaf drydanol sy'n archwilio cariad a dyhead, anhrefn a rheolaeth - a theulu ym mhob un o'i ffurfiau. Yn ogystal, mae Derek Owusu, a gafodd ei enwebu am y wobr yn 2023 am ei nofel Losing the Plot, yn y gystadleuaeth eto am Borderline Fiction, stori gyfoes wreiddiol iawn am ddyn ifanc sy'n chwilio am ffordd ddilys o dderbyn a dangos cariad.

Mae pedair nofel arall ar y rhestr – pob un ohonynt yn nofelau cyntaf: Mae Esther Ifesinachi Okonkwo o Nigeria yn archwilio mudo, cariad, galar a hunaniaeth i fewnfudwr o Nigeria yn yr Unol Daleithiau yn The Tiny Things Are Heavier; Mae Harriet Armstrong o Rydychen yn cael ei chydnabod am To Rest Our Minds and Bodies, stori anghonfensiynol wedi'i lleoli ar gampws prifysgol dienw, sy'n adrodd am chwalfa ymdeimlad menyw ifanc o'i hun a'i brwydr i gadw gafael ar realiti; Mae We Pretty Pieces of Flesh gan Colwill Brown, a anwyd ac a fagwyd yn Doncaster, yn ein tywys drwy iardiau ysgolion, lonydd cefn a chlybiau nos Doncaster, gan ddatgelu bradau personol llencyndod; ac, yn olaf, yn Absence gan Issa Quincy, mae adroddwr dienw yn cloddio atgof plentyndod o'i fam yn darllen cerdd, cyn iddo ddod yn archif ymgorfforol ar gyfer nifer o straeon anghofiedig.

Gyda thri enwebai, mae barddoniaeth wedi’i chynrychioli’n dda yn rhestr hir eleni. Mae'r bardd, y golygydd a'r beirniad Isabelle Baafi yn cael ei chydnabod am ei chasgliad cyntaf Chaotic Good – archwiliad barddonol o'r ffyrdd y mae pŵer yn cronni, yn symud ac yn cael ei ildio, wedi'i fframio gan stori priodas wenwynig. Hefyd ar y rhestr hir mae Joy Is My Middle Name gan yr awdur Americanaidd Sasha Debevec-McKenney, sy'n dogfennu dyfodiad menyw ifanc o'i hugeiniau a chychwyn ar ei thridegau. Yn olaf, y bardd arobryn o Fryste, Suzannah V. Evans.Mae Evans ar y rhestr hir am Under the Blue – casgliad yn llawn geiriau a dyhead am harddwch disglair bywyd a realiti gofal.

 

Mae dau gasgliad o straeon byrion ar y rhestr hir, gan gynnwys y casgliad cyntaf gan Vanessa Santos o’r Alban, Make a Home of Me, sy’n cynnwys straeon arswyd wedi’u lleoli mewn tai a ddylai amddiffyn, ond yn hytrach sy'n troi yn erbyn eu trigolion. Yn y cyfamser, mae'r awdur o Bacistan Kanza Javed wedi'i enwebu am What Remains After a Fire, casgliad o wyth stori ddiysgog, yn cynnwys cymeriadau sy'n ceisio'n daer i greu llwybr iddyn nhw eu hunain ar gyrion cymdeithas.

Bydd y teitlau ar y rhestr hir bellach yn cael eu cwtogi i restr fer o chwech gan banel o feirniaid o fri dan gadeiryddiaeth Irenosen Okojie MBE. Mae Irenosen Okojie yn awdur Prydeinig arobryn o Nigeria a ysgrifennodd Curandera, Butterfly Fish, Speak Gigantular a Nudibranch. Mae'n gyn-feirniad Gwobr Ffuglen Menywod, ac yn ymuno â hi mae: Joe Dunthorne, bardd a nofelydd arobryn a anwyd yn Abertawe; Nidhi Zak / Aria Eipe ,bardd, heddychwr a chwedleuwr; Prajwal Parajuly, awdur The Gurkha’s Daughter a Land Where I Flee a enwebwyd am wobrau lu;Eley Williams, awdur clodwiw a Chymrawd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol.

Dyfarnwyd gwobr y llynedd i’r awdures o Balesteina Yasmin Zaher am ei nofel The Coin, ac mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Caleb Azumah Nelson, Arinze Ifeakandu, Patricia Lockwood, Max Porter, Raven Leilani, Bryan Washington, Fiona McFarlane, a Kayo Chingonyi.

Caiff rhestr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe ei chyhoeddi ddydd Iau 19 Mawrth, wedi'i dilyn gan ddigwyddiad sy'n dathlu'r rhestr fer yn Llundain (13 Mai), gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas (14 Mai) mewn seremoni gyda’r hwyr yn Abertawe.

Rhannu'r stori