Grŵp o saith o bobl yn sefyll mewn labordy yn dal siec fawr

(Blaen, o'r chwith) Mark Davies a Paul Jackson, The Hospital Saturday Fund; Liberty Harrison, BRACE Dementia Research; a Dr Rhian Thomas, Uwch-ddarlithydd mewn Fferylliaeth (cefn) Dr James Murray, Uwchddarlithydd mewn Mecanweithiau Heneiddio a Chlefydau sy'n Gysylltiedig â Heneiddio; Shane Connelly, myfyriwr PhD mewn Astudiaethau Heneiddio; a Raisa Ridley, BRACE Dementia Research.

Mae arbenigwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cymorth ychwanegol ar gyfer astudiaeth arloesol ar heneiddio'r ymennydd a genynnau a allai wella dulliau datblygu cyffuriau.

Mae rhodd o £10,000 gan y Hospital Saturday Fund yn atgyfnerthu grant gwerth £56,000 gan yr elusen BRACE Dementia Research i Dr James Murray a'i dîm. Maent yn credu y gallai eu hymagwedd newydd fynd i'r afael â phroblem fawr sef pam mae cyffuriau dementia addawol yn parhau i fethu mewn treialon clinigol.

Er bod y rhan fwyaf o fodelau datblygu cyffuriau'n defnyddio llygod neu lygod mawr i astudio dementia, cred Dr Murray fod nam ar y modelau hynny gan nad yw llygod a llygod mawr yn datblygu dementia yn naturiol fel pobl. Golyga hyn ei bod yn bosib na fydd cyffuriau a ddatblygwyd ar y math hwn o anifeiliaid yn gweithio yn yr un ffordd ag y maent yn gweithio mewn pobl.  

Mae gwyddonwyr yn defnyddio modelau anifeiliaid dan amodau hollol angenrheidiol yn unig, a disgwylir y bydd yr ymchwil hon yn arwain at ganfyddiadau a fydd o fudd i bobl ac i anifeiliaid fel ei gilydd. 

Defnyddir anifeiliaid yn yr ymchwil hon am y rhesymau canlynol:

  • Mae geneteg yr anifeiliaid hyn a phobl yn debyg;
  • Mae bioleg yr anifeiliaid yn dangos sut mae dementia a chlefydau cysylltiedig yn dechrau ac yn datblygu; ac,
  • ni fydd defnyddio celloedd dynol neu anifeilaidd yn unig yn dangos sut mae'r corff byw yn ymateb i ddementia a thriniaethau

Mae tîm Dr Murray yn datblygu model ymchwil newydd gan ddefnyddio pysgod abwyd gwyrddlas (Nothobranchius furzeri) - pysgodyn bach a chanddo hyd oes byr naturiol o ychydig fisoedd yn unig ac sy'n datblygu nodweddion corfforol yn naturiol sy'n gysylltiedig â dementia. 

Nod yr ymchwil yw addasu genynnau pysgod abwyd penodol i ddatblygu problemau cof a meddwl sy'n debyg i ddementia mewn pobl, gan gynnig ffordd fwy cywir o ddatblygu a phrofi cyffuriau dementia.

Mae'r grant yn galluogi’r tîm yn Abertawe i ddilyn yr ymagwedd arloesol hon fel rhan o brosiect peilot.

Mae’r labordy ym Mhrifysgol Abertawe'n un o ychydig labordai yn unig yn y DU sy'n defnyddio'r ymagwedd arloesol hon. Er na fydd y prosiect hwn yn arwain yn uniongyrchol at driniaethau y bydd modd eu defnyddio ar unwaith, mae Dr Murray yn gobeithio creu model ymchwil gwerthfawr a allai arwain at ddatblygiadau pwysig yn y pen draw, gan helpu miliynau o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt ym mhob cwr o'r byd. 

Dywedodd Dr Murray: "Rydym yn gobeithio y bydd y model hwn yn helpu ymchwilwyr i ddylunio cyffuriau sy'n cael effaith go iawn pan fyddant yn cyrraedd cleifion. Mae dyfarniad The Hospital Saturday Fund yn hanfodol wrth ein galluogi ni i gymryd y cam nesaf hwn. Gan gyfuno hyn â'r cymorth sylweddol gan BRACE Dementia Research, gallwn ymgymryd ag ymchwil a allai drawsnewid ein dealltwriaeth o ddementia a sut rydym yn mynd i'r afael â'r clefyd.”

Dywedodd llefarydd o The Hospital Saturday Fund: "Roeddem yn falch iawn o ddyfarnu grant i gefnogi'r prosiect peilot cyffrous hwn. Nod y prosiect yw datblygu pysgod abwyd gwyrddlas Affricanaidd fel organeb fodel newydd ar gyfer astudio dementia, gan fanteisio ar gylch oes hynod fyr y rhywogaeth.

"Os bydd yr ymchwil yn llwyddiannus, gallai arwain at ddulliau profi mwy effeithlon ar gyfer triniaethau posib a dyfnhau'n sylweddol ein dealltwriaeth o ddementia, gan gynrychioli cam hanfodol ymlaen at wella canlyniadau ar gyfer y rhai hynny y mae'r clefyd yn effeithio arnynt."

Ychwanegodd Liberty Harrison o BRACE Dementia Research: "Gallai ymagwedd arloesol Dr Murray gynnig model newydd sy'n datgloi ffyrdd newydd o fynd i'r afael â dementia. Gyda bron miliwn o bobl yn byw gyda dementia yn y DU, gallai'r ddealltwriaeth well hon o heneiddio'r ymennydd gael effaith ystyrlon."

Rhagor o wybodaeth am yr Ysgol Feddygaeth

 

Rhannu'r stori