Steve Hicks, Asiant Cymru ym Manc Lloegr, Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr, ac Ian Derrick, Dirprwy Asiant Cymru ym Manc Lloegr, gyda myfyrwyr Economeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Arweiniodd meddwl cyflym a sgiliau rhwydweithio myfyriwr o Brifysgol Abertawe mewn digwyddiad busnes lleol yn y ddinas at sicrhau ymweliad gan Lywodraethwr Banc Lloegr.
Roedd Alastair Woodrow, sy'n fyfyriwr economeg yn y drydedd flwyddyn, mewn digwyddiad a drefnwyd gan Glwb Busnes Bae Abertawe fel rhan o'i leoliad Blwyddyn mewn Diwydiant. Roedd y digwyddiad gyda Dirprwy Asiant Cymru ym Manc Lloegr, Ian Derrick, a phenderfynodd Alastair fentro a'i wahodd i ymweld â'i gyd-fyfyrwyr economeg yn y brifysgol. Fel y digwyddodd, roedd Llywodraethwr Banc Lloegr, Andrew Bailey, yn cynllunio ymweliad ag Abertawe ac felly roedd Ian yn hapus i'w gysylltu â Phrifysgol Abertawe.
Roedd ymweliad Andrew Bailey yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb lle cafodd y myfyrwyr gipolwg unigryw ar ei safbwyntiau arbenigol ar bynciau fel polisi ariannol, rheoleiddio'r system ariannol, arian digidol a deallusrwydd artiffisial a chawsant gyfle i ddysgu mwy am ei yrfa broffesiynol a gyrfaoedd eraill yn y sector.
Meddai Alastair:
“Byddwn i’n argymell yn gryf bod myfyrwyr yn ystyried gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant - dydych chi byth yn gwybod pa gyfleoedd a gewch chi - fel mae fy mhrofiad i’n ei ddangos! Cefais fy synnu’n llwyr pan gynigiodd Andrew Bailey ymweld yn garedig. Cyflwynodd enghreifftiau clir ac ymarferol i'r myfyrwyr a oedd yn cysylltu cysyniadau â realiti'r byd ariannol a sut mae damcaniaethau economaidd yn gweithredu mewn cyd-destunau bywyd go iawn. Roedd pawb wrth eu boddau ei fod wedi rhoi mor hael o’i amser. Rwy'n gobeithio ei fod wedi mwynhau cwrdd â’r myfyrwyr ac ateb cwestiynau am economeg a gyrfaoedd yn y sector ariannol.”
Meddai Andrew Bailey:
“Roedd yn bleser mawr cwrdd â’r garfan hon o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Cafwyd sesiwn wirioneddol ddiddorol o ganlyniad i'w chwilfrydedd, eu cwestiynau meddylgar, a'u brwdfrydedd ar draws ystod o bynciau economaidd"
Meddai Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) Prifysgol Abertawe, yr Athro Deborah Youngs:
“Rwy'n canmol Alastair am fachu'r cyfle hwn a rhoi profiad bythgofiadwy ac amhrisiadwy i'w gyd-fyfyrwyr. Fel arweinydd llawn ysbrydoliaeth a llwyddiannus ar frig ei broffesiwn, mae haelioni Andrew Bailey i gymryd yr amser i rannu ei fewnwelediad a'i wybodaeth yn rhoi profiad dysgu a mewnwelediad gyrfa amhrisiadwy i'n myfyrwyr, a fydd yn gadael argraff barhaol."
Dysgwch fwy am astudio yn yr Adran Economeg ym Mhrifysgol Abertawe.