O'r chwith i'r dde: Irenosen Okojie, Joe Dunthorne, Nidhi Zak/Aria Eipe, Prajwal Parajuly, Eley Williams
Caiff y panel beirniadu ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni, y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc, ei gyhoeddi heddiw, cyn cyhoeddi'r rhestr hir ddydd Iau 22 Ionawr.
Caiff y rhestr fer ei chyhoeddi ddydd Iau 19 Mawrth, wedi'i dilyn gan ddigwyddiad sy'n dathlu'r rhestr fer yn Llundain (13 Mai), gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas (14 Mai) mewn seremoni nos yn Abertawe.
Bydd panel beirniadu 2026 yn cael ei gadeirio gan Irenosen Okojie MBE, awdur arobryn Nigeraidd Prydeinig y mae ei gwaith yn gwthio ffiniau ffurf, iaith a syniadau. Mae ei nofelau, Curandera, Butterfly Fish, a'i chasgliadau o straeon byrion, Speak Gigantular a Nudibranch, wedi ennill ac wedi cael eu henwebu am sawl gwobr. Mae ei gwaith ysgrifennu wedi ymddangos yn The New York Times, Vanity Fair, yr Observer, y Guardian a'r Huffington Post. Hi oedd y beirniaid ar gyfer Gwobr y Menywod am Ffuglen 2023 a derbyniodd MBE am ei Gwasanaeth i Lenyddiaeth yn 2021.
Hefyd yn ymuno â'r panel beirniadu ar gyfer 2026 mae:
- Joe Dunthorne, bardd a nofelydd, y cafodd ei nofel gyntaf, Submarine, ei chyfieithu i bymtheg iaith a’i gwneud yn ffilm arobryn. Enillodd ei ail nofel, Wild Abandon, Wobr Encore y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Cafodd ei lyfr diweddaraf, Children of Radium, ei addasu'n bodlediad ar gyfer BBC Radio 4. Fe'i ganed yn Abertawe ac mae'n byw yn Llundain.
- Nidhi Zak / Aria Eipe, bardd, heddychwr a chwedleuwr. Cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf, Auguries of a Minor God, rownd derfynol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, ac mae hi'n aelod o'r Pwyllgor Ymgynghorol Arbenigol ar gyfer Diwylliant Iwerddon a bwrdd Gŵyl Llyfrau Dulyn.
- Prajwal Parajuly, awdur The Gurkha’s Daughter: Stories and Land Where I Flee, y mae ei gwaith wedi cael ei enwebu am Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe a Gwobr Mogford y DU, y Wobr Emile Buimet a'r Wobr am Nofel Gyntaf yn Ffrainc, a'r Wobr Stori yn y UD.
- Eley Williams, awdur Moderate to Poor, Occasionally Good, a gafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2025. Yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth, hi yw awdur y casgliad o straeon byrion - a enillodd Wobr Republic of Consciousness a Gwobr Goffa James Tait Black - a'r nofel a enillodd Wobr Betty Trask The Liar's Dictionary.
Mae'r wobr fyd-eang hon, sy'n werth £20,000, yn cydnabod llenorion eithriadol o dalentog 39 oed neu'n iau, gan ddathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.
Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae'n dwyn ei enw er mwyn cefnogi llenorion presennol, meithrin doniau’r dyfodol a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.
Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Caleb Azumah Nelson, Arinze Ifeakandu, Patricia Lockwood, Max Porter, Raven Leilani, Bryan Washington, Fiona McFarlane, a Kayo Chingonyi, gyda gwobr y llynedd wedi'i ddyfarnu i Yasmin Zaher am ei nofel The Coin.