Pwysau cyfiawnder, gafael, tri ffigur pren a phennyn ar sefyllfa bren.

Mae plant sy'n cael cyswllt â’r llysoedd teulu, boed hynny o ganlyniad i rieni'n gwahanu neu achosion gofal plant, yn fwy tebygol o hunan-niweidio na'r rhai hynny nad ydynt wedi cael profiad o'r system cyfiawnder teuluol.  Mae unrhyw gyswllt â llys teulu yn gyfle i nodi ymdrechion gofal ac atal a'u rhoi ar waith ar gyfer plant sydd mewn perygl, yn ôl ymchwil newydd.

Mae penderfyniadau ar drefniadau gofal, cyswllt teuluol a threfniadau byw i blant yn cael eu gwneud mewn achosion yn y llysoedd teulu. Mae hyn yn cynnwys achosion cyfraith teulu preifat (megis penderfyniadau mewn perthynas â rhieni'n ysgaru/gwahanu) a chyhoeddus (lle mae awdurdodau lleol wedi cymryd camau er lles plant). Mae tua un o bob 10 teulu lle mae'r rhieni'n gwahanu yn rhan o achosion preifat mewn llys teulu.

Bellach, mae astudiaeth gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ym Mhrifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield, wedi archwilio hunan-niweidio yn dilyn achosion cyfraith teulu preifat a chyhoeddus. Dyma'r tro cyntaf i hunan-niweidio gael ei gymharu rhwng plant sydd wedi cael cyswllt â llysoedd teulu a'r boblogaeth ehangach o blant nad ydynt wedi cael profiad o lysoedd teulu.

Meddai'r prif awdur, yr Athro Ann John, o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: "Mae’r risg gynyddol o hunan-niweidio ymhlith plant sydd wedi bod yn rhan o achosion amddiffyn plant yn y llysoedd yn hysbys iawn, ond rydyn ni'n gwybod llai am blant sy'n rhan o anghydfodau preifat yn y llysoedd am drefniadau byw ac ariannol pan fydd rhieni wedi gwahanu. 

"Dangosodd ein canfyddiadau fod y risg o hunan-niweidio ymhlith plant a oedd yn rhan o achosion preifat mewn llys teulu ddwywaith yn fwy na’r risg ymhlith plant heb unrhyw gyswllt o'r fath.

"Mae hyn yn bwysig am sawl rheswm.  Mae hunan-niweidio yn gymharol gyffredin mewn pobl ifanc yn eu harddegau ac er nad yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n mynd ymlaen i farw drwy hunan-laddiad, mae'n arwydd cryf o drallod. Serch hynny, mae hunan-niweidio yn un o'r ffactorau risg mwyaf cryf ar gyfer hunanladdiad, felly dylai ymdrechion cymorth ac ataliaeth roi blaenoriaeth i’r holl blant sydd mewn cyswllt â llysoedd teulu.

"Yn y bôn, gan fod achosion o rieni'n gwahanu yn gyffredin, gallwn ni danbrisio'r effaith ond pan fo rhieni'n cynnwys llysoedd teulu, mae gwir angen i ni sicrhau bod holl aelodau'r teulu, yn enwedig y plant, yn cael eu cefnogi."

Fel rhan o'i ymchwil bu'r tîm yn archwilio data cysylltiedig o'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) ynghyd â data gofal iechyd a gesglir yn rheolaidd sy'n cael ei gadw ym manc data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe. Astudiodd y tîm achosion a oedd yn cynnwys 703,182 o blant rhwng 2011 a 2018. O'r rhain, roedd 17,041 yn achosion cyfraith teulu preifat a 5,524 yn achosion cyfraith teulu cyhoeddus.

Mae canfyddiadau'r tîm newydd gael eu cyhoeddi gan y cyfnodolyn BJPsych Open gan ddatgelu bod cyfraddau hunan-niweidio yn uwch ymhlith plant a oedd wedi cael cyswllt â llysoedd na phlant yn y boblogaeth gyffredinol nad oedd ganddynt brofiad o'r llysoedd.

Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod y risg o hunan-niweidio oddeutu dwywaith mor uchel yn dilyn achosion llys teulu preifat ac oddeutu teirgwaith mor uchel yn dilyn achosion llys teulu cyhoeddus, o'u cymharu â phlant mewn grwpiau oedran a rhyw cymharol.

Mae'n debyg bod y cynnydd o ganlyniad i'r amgylchiadau a achosodd i'r teuluoedd fynd gerbron y llysoedd - materion megis gwrthdaro teuluol, ansicrwydd ynghylch trefniadau byw neu faterion lles.

Cred yr ymchwilwyr fod cyswllt â chyfiawnder teuluol yn gyfle i nodi anghenion y teuluoedd hyn - oedolion a phlant fel ei gilydd - ac i gynnig cymorth ac ymyrraeth rhagweithiol a all fod drwy rwydweithiau ehangach megis ysgolion.

Meddai'r cyd-awdur, Dr Amanda Marchant: "Dylai cymorth rhagweithiol ar gyfer hunan-niweidio ac iechyd meddwl fod ar gael i blant sy'n rhan o achosion cyfraith teulu. Gallai hyn gynnwys llwybr gofal fesul cam, clir ac integredig, rhwng lleoliadau, o lysoedd teulu i gymorth yn yr ysgol a, lle bo angen, gallai gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol wedi'u teilwra i anghenion plant ac oedolion/gofalwyr, rhai a all fod yn gymhleth”

Darllenwch y papur llawn

 

Rhannu'r stori